Newyddion S4C

Perchennog car rali o Sir Gâr yn ‘dorcalonnus’ ar ôl i’w gar gael ei ddwyn

11/10/2022

Perchennog car rali o Sir Gâr yn ‘dorcalonnus’ ar ôl i’w gar gael ei ddwyn

Mae perchennog car rali o Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei fod yn “dorcalonnus” ar ôl i’w gar gael ei ddwyn.

Mae Llyr Jones o Drefach Felindre, Llandysul, yn dweud fod y car bellach wedi ei ddarganfod mewn coedwig yng Nghastell Newydd Emlyn, er bod nifer o rannau o’r car wedi diflannu.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am wybodaeth wedi iddyn nhw ddechrau ymchwilio i geisio darganfod y cerbyd ralïo. Cafodd y car ei ddwyn o garej oedd wedi ei gloi.

Dywedodd Mr Jones wrth Newyddion S4C nad oedd e’n siŵr sut i ymateb pan wnaeth e ddarganfod bod y car wedi mynd.

“O’n i ddim yn siŵr shwt i ymateb, o’dd e’n dorcalonnus,” meddai.  

“Car fi ‘di gweitho mor galed i gael lan i fel y sbec ma’ fe nawr a ma’ fe gyda fi am dros 10 mlyne' a ma’n rhwbeth fi’n gweitho arno’n amal a ma’ fe’n rhan o’n fywyd i.

“Ma’ fe’n golled enfawr.”

Image
Car rali 2.jpg
Mae Llyr Jones wedi bod yn berchen ar y car rali ers dros 10 mlynedd.

'Cadw llygad mas'

Er bod Mr Jones yn dweud bod y car bellach wedi ei ddarganfod, mae’n gofyn am gymorth gan unrhyw un sy’n gweld rhannau ceir ail law ar werth yn yr ardal.

“Fi jest yn gobeitho bydd pobol yn gallu cadw llygad mas am partie ail law yn dod lan a bod nhw jest yn gallu hala llunie i fi a pethe a bydden i’n gallu adnabod rhan fwya’ o’r partie ar y car,” meddai.  

“Bydde fe’n help mowr bod pob un jest yn cadw llygad mas amdanyn nhw."

Roedd nifer o bobl wedi rhannu ei apêl wreiddiol ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae Mr Jones wedi diolch yn fawr iddyn nhw am eu cymorth.

“Jest diolch enfawr am pawb sy’ ‘di bod yn rhannu fe ar social media,” meddai. 

“Ma’r response wedi bod yn anhygoel. O’n i ddim yn disgwyl fraction o’r response ni wedi cael.  

“Ma’ pobol o dros y byd i gyd wedi bod yn touch ‘da fi yn dilyn e a moyn helpu o bob cornel o’r byd.  Fi jest mor ddiolchgar am bob owns o help ni wedi cael.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Heddlu Dyfed-Powys am ddiweddariad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.