Priodferch o Abertawe'n parhau gyda'i dathliadau - er i'w dyweddi wrthod ei phriodi

Fe wnaeth priodferch o Abertawe ddewis parhau gyda dathliadau ei diwrnod mawr, er bod ei dyweddi wedi newid ei feddwl am ei phriodi.
Roedd Kallum Norton, 21, wedi penderfynu na fyddai'n priodi Kayley Stead ar fore'r briodas.
Ond yn hytrach na gohirio'r briodas a'r wledd gwerth £12,000, aeth Kayley, ei ffrindiau a'i theulu yn eu blaen i ddathlu'r achlysur.
Wrth siarad gyda The Sun, dywedodd Kayley ei bod wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr, a bod yr achlysur wedi gwneud iddi sylweddoli nad oedd hi angen cariad neb arall i fod yn hapus.
Darllenwch ragor yma.