Yr argyfwng costau byw yn newid arferion coginio
Mae un ymhob pedwar o gartrefi yn dweud eu bod yn llai tebygol o goginio prydau wedi eu rhostio neu ginio Sul oherwydd y cynnydd mewn costau byw, yn ôl arolwg newydd.
Daw'r ffigyrau newydd o arolwg cylchrawn 'Good Food Nation' y BBC, sydd yn holi pobl yn flynyddol ynglŷn â'u harferion bwyta, coginio a siopa.
Yn ôl yr arolwg, mae'r cynnydd mewn costau ynni a bwyd yn cael effaith sylweddol ar yr hyn y mae pobl yn y DU yn ei fwyta.
Dywedodd bron i chwarter y rhai gafodd eu holi eu bod yn defnyddio'r popty neu'r hob yn llai aml, gyda 21% o bobl yn dweud eu bod nawr yn defnyddio meicrodon yn amlach i goginio prydau bwyd.
Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y prydau mae pobl yn eu coginio. Yn ogystal â llai o bobl yn coginio cinio rhost, dywedodd un o bob pump eu bod yn osgoi pobi cacennau a theisennau oherwydd costau uwch.
Mae'r arolwg hefyd wedi gweld cynnydd mewn mesurau i geisio arbed arian wrth goginio, fel cynllunio prydau o flaen llaw, lleihau gwastraff bwyd a mynd i siopa yn llai aml.
Llun: WikiCommons