Ethol yr Athro Wynne Jones yn Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas y Sioe Frenhinol
Mae'r Athro Wynne Jones wedi'i ethol yn Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas y Sioe Frenhinol Amaethyddol.
Mae'r Athro Jones yn cymryd yr awenau wedi i'r Cynghorydd John T Davies benderfynu camu lawr ar ôl degawd o waith gyda'r gymdeithas.
Yn wreiddiol o Ddolwen ger Bae Colwyn, mae'r Athro Jones yn wyneb adnabyddus o fewn y byd amaethyddol.
Yn ystod ei yrfa, bu'n bennaeth adran yng Ngholeg Amaethyddol Cymru ac yn bennaeth Prifysgol Amaethyddol Harper Adams.
Roedd hefyd yn un o feirniaid y gyfres Fferm Ffactor ar S4C.
Mae wedi bod ynghlwm â'r gymdeithas ers 1975 gan ddechrau fel arddangoswr cyn symud ymlaen i fod yn feirniad ar nifer helaeth o gystadlaethau.
Yn 2015, cafodd ei wahodd i fod yn aelod o fwrdd y gymdeithas.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd yr Athro Jones ei fod yn "anrhydedd enfawr" i gael y cyfle i gadeirio'r bwrdd.
"Rydw i'n dilyn yn nhraed nifer o unigolion ymrwymedig sydd wedi ymdrechu i sicrhau bod y Gymdeithas yn chwarae rôl flaengar yng ngweithgareddau amaethyddol yng Nghymru," meddai.
"Rydw i'n bwriadu i daflu fy holl egni fel cadeirydd at adeiladu ar y llwyddiannau yma."