S4C i ddarlledu gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn fyw
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darlledu pob un o'r gemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2021 yn fyw ar-lein.
Bydd carfan Ioan Cunningham yn teithio i Seland Newydd ym mis Hydref ar gyfer y bencampwriaeth wedi iddi gael ei gohirio y llynedd yn sgil y pandemig.
Hefyd yng Ngrwp A gyda menywod Cymru mae Seland Newydd, Awstralia a'r Alban.
Bydd y gemau i gyd yn cael eu chwarae yn ystod oriau mân y bore yng Nghymru, felly ni fydd y gemau'n cael eu darlledu ar deledu.
Yn hytrach, byddan nhw'n fyw ar S4C Clic a thudalen YouTube S4C.
Bydd y gemau yn cael eu darlledu eto ddiwedd y prynhawn ar S4C, S4C a BBC iPlayer gydag ymateb a dadansoddi pellach.
Heledd Anna fydd yn cyflwyno'r cyfan i S4C, gyda sawl chwaraewr rhyngwladol yn cyfrannu.
Bydd y cyfan yn dechrau i Gymru, ddydd Sul, 9 Hydref, wrth iddyn nhw herio'r Alban.
Bydd gwylwyr yng Nghymru'n gallu gwylio'r gic gyntaf ar y darllediad byw am 5:45.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans