
Cyhoeddi cyflwynwyr newydd BBC Radio Cymru 2
Bydd Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym a Dom James yn ymuno â gorsaf Radio Cymru 2.
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi'r arlwy newydd wedi'r adrefnu diweddar, ar ôl datgelu ddiwedd Awst y bydd Caryl Parry Jones yn gadael y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 i gyflwyno gyda'r hwyr ar Radio Cymru.
Daeth hi i'r amlwg ddechrau Awst fod Rhaglen Geraint Lloyd yn dod i ben gyda'r hwyr ar Radio Cymru, ac mae nifer fawr o wrandawyr wedi mynegi siom â'r penderfyniad hwnnw.
Dros yr haf, cyhoeddodd BBC Cymru ei bwriad i gynyddu oriau darlledu Radio Cymru 2 o 15 awr yr wythnos i 60 awr yr wythnos.
Mae rhai oriau ychwanegol a chyflwynwyr newydd bellach wedi eu cyhoeddi.
O 3 Hydref, bydd Rhydian Bowen Phillips yn cyflwyno'r rhaglen fore 7:00-9:00 yn ystod yr wythnos cyn sioe newydd Lisa Gwilym rhwng 9:00 a 11:00.

Bydd Dom James yn llais newydd ar yr orsaf pob dydd Gwener rhwng 11:00 a 13:00.
Yn hanu o Gaerdydd, mae'n gerddor ac yn wyneb cyfarwydd ar Hansh a BBC Sesh – gwasanaethau digidol S4C a BBC Cymru.
Bob dydd Gwener, Lisa Angharad fydd yn parhau i gyflwyno’r Sioe Frecwast rhwng 7:00 a 9:00, gyda Daniel Glyn a Mirain Iwerydd yn parhau i gyflwyno ar Radio Cymru 2 ar benwythnosau.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Rhydian Bowen Phillips y bydd yn "anrhydedd cael deffro Cymry o ddydd Llun i ddydd Iau."
Ychwanegodd Lisa Gwilym ei bod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o "cynlluniau cyffrous i ehangu Radio Cymru 2."
Yn ôl pennaeth Radio Cymru, Dafydd Meredydd, mae'r newyddion yn "tanlinellu ymroddiad Radio Cymru 2 i gyrraedd cynulleidfa newydd ac yn gam arall tuag at ddau wasanaeth radio cenedlaethol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."
Bydd Rhydian Bowen Phillips yn dal i ddarlledu’r Sioe Sadwrn bob bore Sadwrn gyda Shelley Rees ar BBC Radio Cymru. Ac wrth i Lisa Gwilym symud i Radio Cymru 2, Mirain Iwerydd fydd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd ar Radio Cymru pob nos Fercher rhwng 19:00 a 21:00.