Newyddion S4C

Cyhoeddi rhagor o streiciau gan yrwyr trenau ym mis Hydref

20/09/2022
Tren

Mae undeb ASLEF wedi cyhoeddi y bydd gyrwyr trenau yn cynnal streiciau pellach ar ddydd Sadwrn 1 Hydref a dydd Mercher 5 Hydref.

Mae’r gyrwyr yn streicio oherwydd anghydfod dros gyflogau.

Fe fydd y streiciau yn effeithio ar 12 o gwmnïau trên ar draws y DU gan gynnwys Great Western Railway, fydd yn effeithio ar deithio o Gymru i Lundain.

Mae’r undeb yn dweud nad yw’r gyrwyr wedi cael cynnydd mewn cyflog ers 2019 ac yn gofyn am gyflog “sy’n adlewyrchu costau byw.”

Roedd y gyrwyr wedi streicio am ddeuddydd ym mis Awst ac mae’r undeb yn dweud nad yw’r cyflogwyr wedi gwella unrhyw gynnig.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mick Whelan: “Mae’n well gennym ni i beidio â bod yn y sefyllfa yma. Dydyn ni ddim eisau mynd ar streic – mae hyn, er yn hawl ddynol sylfaenol, bob tro yn ddewis olaf i’r undeb yma – ond mae’r cwmniau trenau wedi bod yn benderfynol i’n gorfodi ni i wneud.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth fod arweinwyr undebau unwaith eto’n “dewis streic hunan-niweidiol dros sgyrsiau adeiladol, fydd nid yn unig yn amharu ar fywydau miliynau sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn ond yn peryglu dyfodol y rheilffyrdd a bywoliaeth eu haelodau eu hunain."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.