Newyddion S4C

Y Frenhines Elizabeth II: Trefniadau'r angladd

19/09/2022
Y Frenhines Elizabeth - Llun Y Teulu Brenhinol

Mae angladd gwladol y Frenhines yn cael ei gynnal ddydd Llun yn Abaty Westminster a bydd yn nodi diwedd cyfnod 10 diwrnod o alaru swyddogol.   

Ond beth yn union ydy'r trefniadau?

Am 10:44 cafodd yr arch ei symud i Abaty Westminster yn dilyn gorymdaith fer lle mae Brenin Charles III a rhai o aelodau eraill y Teulu Brenhinol yn bresennol. 

Fe wnaeth yr arch gyrraedd Abaty Westminster am 10:52 cyn i'r gwasanaeth ddechrau am 11:00.

Deon San Steffan sydd yng ngofal y gwasanaeth angladdol, gydag Archesgob Caint yn cynnig y bregeth a'r Prif Weinidog, Liz Truss, ymhlith y sawl sydd yn darllen.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, am 11:55 cafodd y Caniad Olaf ei chwarae cyn i ddwy funud o dawelwch gael eu cynnal ar draws y wlad. 

Yn dilyn y gwasanaeth am tua chanol dydd bydd yr arch yn gorymdeithio i Golofn Wellington ar gyfer prosesiwn oddi yno i ddechrau am 13:00.

Bydd arch y Frenhines a'r Teulu Brenhinol yna yn teithio i Windsor ar gyfer y seremoni draddodi, gyda'r hers gwladol yn gyrru'n araf i fyny'r Long Walk tuag at Gapel San Siôr.

Bydd y seremoni yn cael ei ffrydio'n fyw ar deledu o'r capel gan ddechrau am 16:00, yng ngofal Deon Windsor.

Bydd diwedd y gwasanaeth yn cael ei nodi gyda chwynfan yn cael ei chwarae gan bibydd y Frenhines.

Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd y corff yn cael ei osod yn y gladdgell frenhinol, allan o olwg y cyhoedd.

Yn ddiweddarach y noson honno, bydd y Frenhines yn cael ei chladdu mewn digwyddiad preifat yng Nghapel Coffa Brenin Siôr VI, lle bydd arch y Frenhines Elizabeth II yn ymuno ag arch y Tywysog Philip.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.