Yvette Cooper 'wedi dilyn y broses gywir' wrth wahardd Palestine Action
Mae Yvette Cooper wedi dweud ei bod hi wedi “dilyn y prosesau cywir” wrth ddynodi Palestine Action yn grŵp terfysgol pan oedd hi’n Ysgrifennydd Gwladol.
Fe enillodd Palestine Action achos llys a oedd yn herio penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi’r mudiad yn un terfysgol yr wythnos hon.
Fe wnaeth yr ymgyrchydd Huda Ammori gyflwyno her gyfreithiol ar ran y mudiad i wrthwynebu penderfyniad y cyn Ysgrifennydd Gwladol i’w gwahardd o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
Ond mae Yvette Cooper, sydd bellach yn Ysgrifennydd Tramor, wedi dweud ddydd Sul ei bod hi wedi dilyn cyngor clir yn ystod y broses o wneud hynny.
Dywedodd ei bod hi wedi mynd drwy “broses ddifrifol iawn gyda’r Swyddfa Gartref, gan ymwneud â nifer o asiantaethau gwahanol a derbyn cyngor gan yr heddlu hefyd – ac roedd y cyngor yn glir iawn o ran dynodi’r grŵp fel un terfysgol".
“Roedd y llys hefyd wedi dweud nad yw [Palestine Action] yn grŵp protestio arferol, eu bod nhw wedi cyflawni terfysgaeth, nad ydynt yn unol â moesau democrataidd, a’u bod nhw wedi annog trais,” meddai mewn cyfweliad gyda Sky News.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Cysgodol, y Fonesig Priti Patel, ei bod hi wedi’i siomi gyda dyfarniad yr Uchel Lys ddydd Gwener fod gwaharddiad Palestine Action yn anghyfreithlon.
Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr, y Fonesig Victoria Sharp, fod yr her yn erbyn y gwaharddiad wedi llwyddo, ond y byddai’r gwaharddiad yn parhau er mwyn caniatáu trafodaethau pellach.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Shabana Mahmood, wedi dweud y bydd Llywodraeth y DU yn apelio’r dyfarniad.
Mae’r gwaharddiad, a ddaeth i rym ar 5 Gorffennaf y llynedd, yn golygu bod ymaelodi â’r mudiad neu ei gefnogi yn drosedd. Gallai unigolion sy’n euog o’r drosedd wynebu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

