Ynys Môn: Aderyn prin yn bridio'n llwyddiannus am y tro cyntaf ers 14 mlynedd

Bran Goesgoch

Mae’r RSPB yng Nghymru yn dathlu llwyddiant aderyn prin sydd wedi bridio'n llwyddiannus oddi ar arfordir Ynys Môn am y tro cyntaf ers 14 mlynedd.

Dywedodd yr elusen fod tri chyw Brân Goesgoch wedi magu plu a gadael eu nyth yng nghlogwyni'r môr ar Gomin Penrhos Feilw, rhan o safle'r RSPB ar Ynys Lawd.

Dyma’r tro cyntaf ers 2012 i fridio llwyddiannus ddigwydd ar y rhan hon o’r arfordir.

Mae Cymru'n gadarnle i'r aderyn ac yn cynnal bron i 80% o holl Frain Coesgoch y DU, gyda'r safle ar Ynys Lawd yn gartref i 4% o'r cyfanswm.

Fe ddywedodd yr elusen gadwraeth bod y bridio llwyddiannus yn dangos gwerth cyfyngiadau mynediad tymhorol i rwystro mynediad i ardaloedd arbennig er mwyn gwarchod bywyd gwyllt yn ystod y tymor bridio.

Mae cyfyngiadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi wedi bod mewn grym yn yr ardal ers ddechrau Mawrth, gan helpu “greu’r amodau tawel sydd eu hangen ar un o adar mwyaf prin Cymru i fagu teulu”, meddai’r RSPB. Bydd y mesur yn dod i ben ar ddiwedd Awst.

'Carreg filltir'

Er nad ydy'r Frân Goesgoch dan fygythiad ledled y byd, ychydig iawn ohonyn nhw sy'n weddill ym Mhrydain.

"Mae'r llwyddiant yn garreg filltir arwyddocaol i un o adar bridio mwyaf prin y DU," meddai'r elusen.

"Yn ystod arolwg a gynhaliwyd yn 2014, dim ond tua 300 pâr oedd yn bridio ledled y Deyrnas Unedig. Mae Cymru yn gadarnle i’r Frân Goesgoch ac yn cynnal 79% o boblogaeth y DU, ac mae safle RSPB yr Ynys Lawd yn gartref i tua 4% o’r cyfanswm.

"Ond mae astudiaethau blaenorol yn dangos bod nifer y tiriogaethau sy’n cynnwys y Fran Goesgoch yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru wedi gostwng 27% rhwng 1994 a 2019."

Image
Ynys Lawd, Mike Prince from Bangalore, India, CC BY 2.0 <https://creativecommons.org/licenses/by/2.0>, via Wikimedia Commons
Mae Ynys Lawd yn adnabyddus fel hafan i adar nythu

Fe wnaeth mam y cywion newydd, sy’n cael ei galw’n “Little Moon", ddeor yn RSPB Ynys Lawd yn 2020. Ymgartrefodd yng Nghomin Penrhos Feilw y llynedd, ac ers hynny mae hi a’i phartner wedi llwyddo i fagu tri o gywion bach, a hynny yn eu hymgais fridio hysbys gyntaf gyda’i gilydd.

Dywedodd Laura Kudelska, Uwch Reolwr Safle RSPB Ynys Lawd: Mae gweld Little Moon yn dychwelyd i fagu tri o gywion iach yn yr ogof forol hon yn werth chweil. Rydyn ni wedi ei gwylio’n tyfu o fod yn gyw yn Ynys Lawd i fod yn rhiant, ac mae ei stori’n ein hatgoffa pam fod gwarchod y lleoedd arbennig hyn yn bwysig. 

"Mae’r llwyddiant hwn hefyd yn enghraifft wych o bartneriaeth ar waith. Hoffwn ddiolch i gefnogaeth yr ymwelwyr a'r sefydliadau wnaeth ein helpu ni i roi’r neges ar led am y cyfyngiadau tymhorol. 

"O’ch herwydd chi mae’r adar hyn wedi cael y lle oedd ei angen arnynt i fridio'n llwyddiannus."

Prif lun: Alun Williams333, CC BY-SA 4.0, Wikimedia Commons

Llun canol: Mike Prince o Bangalore, India, CC BY 2.0, Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.