Ymprydio ysbeidiol ‘ddim gwell na diet cyffredin’ medd ymchwil newydd
Dyw ymprydio ysbeidiol yn gweithio ddim gwell na diet cyffredin fel ffordd i bobl golli pwysau, yn ôl ymchwil newydd gan arbenigwyr.
Mae yna nifer o dechnegau gwahanol ar gyfer ymprydio ysbeidiol, o ymprydio am ddeuddydd yr wythnos i ganiatáu bwyta am gyfnod o wyth awr bob dydd yn unig.
Ond dywedodd ymchwilwyr a fu’n astudio 22 o brofion oedd yn cynnwys 1,995 o oedolion ar draws y byd nad oedd tystiolaeth ei fod yn fwy effeithiol na diet cyffredin oedd yn cyfyngu ar faint o galorïau oedd yn cael eu bwyta bob dydd.
Daeth awduron yr ymchwil i’r casgliad y gallai “ymprydio ysbeidiol arwain at fawr ddim gwahaniaeth mewn colli pwysau, wedi’i fesur fel newid o’r pwysau cychwynnol”.
“Nid yw’n ymddangos bod ymprydio ysbeidiol yn gweithio i oedolion sydd dros bwysau neu’n ordew ac sy’n ceisio colli pwysau,” meddai Luis Garegnani, prif awdur yr adolygiad.
“Gall ymprydio ysbeidiol fod yn opsiwn rhesymol i rai pobl, ond nid yw’r dystiolaeth gyfredol yn cyfiawnhau’r brwdfrydedd a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 62% o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew, gyda 25% yn ordew.
Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2023 yn nodi bod bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dechrau ysgol gynradd dros ei bwysau neu’n ordew.
Bydd gordewdra yn costio £2.4 biliwn i economi Cymru erbyn 2050, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
