Ymgyrch newydd i adfer adeilad capel Soar y Mynydd ger Tregaron

Soar y Mynydd

Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio er mwyn adfer ac achub adeilad capel Soar y Mynydd ger Tregaron. 

Bwriad y bartneriaeth rhwng aelodau'r capel a chôr Merched Soar yw atgyweirio ac adnewyddu'r adeilad yn dilyn nifer o stormydd dros y gaeaf. 

Byddai'r gwaith yn cynnwys atgyweirio’r to, paentio tu allan a thu mewn i’r adeilad, atgyweirio’r tŷ capel a gwaith tirlunio.

Gobaith y grŵp yw codi £50,000 erbyn diwedd y flwyddyn cyn edrych ar opsiynau eraill. 

Fe gafodd y capel, sydd wedi ei leoli yng nghanol mynyddoedd Cambria ger Tregaron yng Ngheredigion, ei adeiladu ym 1822 i wasanaethu cymunedau gwledig gwasgaredig. 

Un sydd wedi bod yn aelod o gapel Soar y Mynydd ers dros 30 mlynedd yw Margaret Evans a hi yw trysorydd presennol y capel â’i chwaer Lynwen yn ysgrifennydd.

Dywedodd Margaret Evans: "Mae fy nghysylltiad teuluol yn mynd yn ôl i fy nghyndeidiau a bu fy hen dadcu, Zacheus Williams yn flaenor am dros hanner canrif. Rwyf fi a David y gŵr wedi bod yn aelodau ers dros 30 mlynedd ac erbyn  hyn mae ein dwy ferch, Gillian a Heather yn aelodau hefyd. 

"Mae’n anhygoel faint o ymwelwyr sy’n ffeindio’r ffordd yma o bedwar ban byd, ac mae gweld eu sylwadau yn y llyfr ymwelwyr yn rhoi modd i fyw i fi ac yn dangos pa mor arbennig  yw’r capel."

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio mewn gwasanaeth arbennig yng nghapel Soar ddydd Sul a fydd yn cael ei arwain gan gôr Merched Soar. 

Mae’r côr yn dathlu degawd o ganu eleni a dywedodd arweinydd y côr, Carys Mai: "A ninnau’n dathlu carreg filltir arbennig eleni, roedden ni’n awyddus iawn i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. 

"Does dim amheuaeth fod Capel Soar y Mynydd yn un o’r lleoliadau mwyaf hudol ac unigryw yng Nghymru ac felly ry’n ni’n falch iawn o lansio’r ymgyrch hon heddiw gydag aelodau’r capel ynghyd â’r cyfle i gynnal oedfa i agor tymor y Capel. 

"Dwi’n gobeithio bydd y gymuned gyfan ac unrhyw un dros y byd sydd â chysylltiad â Soar yn cefnogi’r ymgyrch ac yn rhoi yn hael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.