Pêl-droed: Cwpan y Gynghrair i gael ei ddiddymu
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cwpan y Gynghrair, sef y Cwpan Nathaniel MG, yn dod i ben.
Fe fydd Cwpan y Gynghrair i dimau ail haen pêl-droed Cymru hefyd yn cael ei dynnu allan o'r calendr pêl-droed ar gyfer y tymor 2026/27, yn ôl cyhoeddiad gan y gymdeithas nos Iau.
“Daw’r penderfyniad wedi cyfnod o ymchwil helaeth sydd yn cyd-fynd ag adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriad cydweithredol â chlybiau,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.
Cafodd Cwpan y Gynghrair ei sefydlu'r un tymor ag Uwch Gynghrair Cymru, yn 1992/93, gyda’r Barri yn ei hennill y tymor hwn am y pumed tro yn eu hanes.
Mae’r Gymdeithas wedi dweud mai eu ffocws yw i “gryfhau strwythur y brif gynghrair” wrth i’r gynghrair dyfu o 12 tîm i 16 tîm yn y tymor newydd.
Bydd y newid yn arwain at “rhaglen gemau estynedig, gan ychwanegu at bwysau ar y calendr,” yn ôl y Gymdeithas.
Mae’r penderfyniad wedi’i feirniadu gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Chlwb Pêl-droed Llanilltud Fawr yn dweud ar gyfrwng X: “Mae’n drist gweld diwedd y cystadlaethau hyn.”
Llun: Y Barri yn codi Cwpan y Gynghrair y tymor hwn (Cymdeithas Bêl-droed Cymru)