Etholiadau cynghorau Lloegr: Reform ar eu hennill wrth i Lafur golli cannoedd o seddi

Starmer / Farage (PA)

Mae’r Blaid Lafur wedi colli rheolaeth ar ddeg cyngor yn Lloegr wrth i Reform UK ennill dros 300 o seddi wedi i’r cynghorau cyntaf gyhoeddi canlyniadau’r etholiadau fore Gwener.

Wedi i 45 o 136 o gynghorau Lloegr ddatgan eu canlyniadau yn ystod oriau mân fore Gwener, Reform UK sydd ar y blaen gyda 397 o seddi.

Mae Llafur wedi ennill 253 o seddi, ond wedi colli 257, tra bod gan y Ceidwadwyr 257 ar ôl colli 170 hyd yma. 

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar 247 o seddi, gyda'r Blaid Werdd yn dal 51 o seddi ar hyn o bryd.

Yn debyg i’r etholiadau yng Nghymru a’r Alban, mae disgwyl i ganlyniadau’r mwyafrif o etholiadau cynghorau a meiri Lloegr gael eu cyhoeddi yn ystod prynhawn dydd Gwener.

Mae arweinydd Reform, Nigel Farage, wedi disgrifio’r canlyniadau fel “newid hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Prydain”, gan awgrymu bod y blaid ar y trywydd i ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Er bod trafod ynghylch dyfodol Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae’r Dirprwy Brif Weinidog, David Lammy, yn mynnu y bydd yn aros yn Rhif 10.

“Mae yna gwestiynau mae’n rhaid i ni eu hateb, ond nid o dan unrhyw amgylchiadau mai’r ateb i gwestiynau mae pobl Prydain yn eu codi yw newid arweinydd unwaith eto,” meddai.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, John McDonnell, bod yn rhaid i newid arweinydd fod “ar yr agenda” os yw “hunllef” Llafur yn cael ei gwireddu yn etholiadau’r Senedd a Holyrood.

“Bydd rhaid gweld pan fydd y canlyniadau’n dod i mewn, ac mae’n bosibl y bydd canlyniadau Cymru a’r Alban yn fwy dylanwadol na seddi cynghorau yn Lloegr wrth lunio agwedd y blaid at y dyfodol.

“Mae angen i’r blaid ystyried pam ein bod yn y sefyllfa yma, a dylai’r drafodaeth honno ddigwydd ar bob lefel o’r blaid a chynnwys pob mater. Ond mae’n anochel bod cwestiwn yr arweinyddiaeth ar yr agenda,” meddai Mr McDonnell.

Prif lun: Keir Starmer a Nigel Farage (PA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.