Ymchwiliad i ymosodiad honedig ger clwb rygbi yng Ngheredigion
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn ger clwb rygbi yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am ymosodiad ar gae pêl-droed ger Clwb Rygbi Aberteifi am 10:30 ar fore dydd Iau, 16 Ebrill.
Y gred yw bod unigolyn neu unigolion wedi ymosod ar y dyn o'r tu ôl.
Cafodd y dioddefwr ei adael yn anymwybodol yn y cae am gyfnod, gan ddioddef anafiadau i'w wyneb a'i ben.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw lygad-dystion i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 260003000397.
Llun: Google