Etholiad y Senedd '26: Disgwyl y canlyniadau wrth i'r cyfri' ddechrau
Map Canlyniadau
Llwytho...
Dosbarthiad Seddau
Llwytho...
Y diweddaraf:
- Caeodd y gorsafoedd pleidleisio am 22.00 nos Iau, ac mae disgwyl i’r cyfrif ddechrau fore dydd Gwener
- Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf tua 14.00 a’r olaf tua 17.30 - ond fe allai fynd yn hwyrach na hynny hefyd
- Mae yna ansicrwydd mawr am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Plaid Cymru neu Reform fod y blaid fwyaf yn y Senedd
- Am y tro cyntaf, fe fydd 96 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol, yn hytrach na’r 60 blaenorol
- Fe fydd 16 o etholaethau yn cyhoeddi eu canlyniadau yn ystod y dydd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod
Canlyniadau'r Etholiad
Ffrwd byw
Pryd mae disgwyl i’r canlyniadau ein cyrraedd ni?
Bydd y cyfri yn dechrau bore Gwener, ac mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.
Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn yn cael eu cyhoeddi.
Brasamcanion yw’r amseroedd isod i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.
Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at brynhawn ddydd Gwener:
- Casnewydd Islwyn - 14:00
- Gŵyr Abertawe - 14:00
- Sir Fynwy Torfaen - 14:00
- Bangor Conwy Môn - 15:00
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
- Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
- Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
- Caerdydd Penarth - 15:00
- Ceredigion Penfro - 15:00
- Clwyd - 15:00
- Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
- Afan Ogwr Rhondda - 15:30
- Gwynedd Maldwyn - 15:30
- Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
- Sir Gaerfyrddin - 16:00
- Fflint Wrecsam - 17:30
Ymateb Plaid Cymru wrth i’r blychau pleidleisio gau
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nos Iau: “Wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau ledled Cymru heno, mae Plaid Cymru yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y foment bwysig hon i’n democratiaeth ac i ddyfodol ein cenedl.
“Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth ac wedi’u gyrru gan awydd am ddewis arall cadarnhaol i anhrefn Reform UK a’u hymgais i rannu ein cymunedau.
“Mae pobl Cymru bellach wedi pleidleisio, ac rydym yn edrych ymlaen at y canlyniadau ddydd Gwener gyda gobaith am y dyfodol cadarnhaol y mae Cymru’n ei haeddu.”
Y dilysu yn Llandysul ar gyfer sedd Ceredigion Penfro
Mae'r dilysu pleidleisiau wedi dechrau yn Ysgol Bro Teifi Llandysul ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro.
Dyma'r sedd lle mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan o'r Blaid Lafur yn sefyll., a hefyd y Llywydd, Elin Jones o Blaid Cymru. Pwy fydd yn gwenu yma ar ddiwedd y noson?
Faint fydd wedi pleidleisio eleni?
Mae'r canrannau cyntaf o ran faint sydd wedi pleidleisio wedi eu cyhoeddi:
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: 47.7%
- Casnewydd Islwyn: 47.8%
Roedd rywfaint o obaith, gan fod y ras wedi bod mor agos eleni, y byddai mwy o bobl yn cymryd diddordeb ac yn bwrw pleidlais.
Nid yw’r ganran a bleidleisiodd erioed wedi cyrraedd 50% na mwy. Roedd y ffigwr ar ei uchaf yn 2021, gyda 46.6% yn bwrw pleidlais, ac ar ei isaf yn 2003, gyda dim ond 38.2% yn dewis gwneud hynny.
Fe bleidleisiodd 50.43% yn is-etholiad Caerffili ym mis Hydref, gan awgrymu y gallai’r ffigwr fod yn uwch na’r arfer eleni.
Mae’n anodd gwybod pwy fyddai’n cael budd o ganran uwch yn pleidleisio, wrth gwrs.
Fe allai awgrymu bod Reform wedi dod o hyd i bleidleiswyr newydd i’w cefnogi.
Ond fe allai hefyd awgrymu bod pleidleiswyr wedi dod allan er mwyn “stopio Reform”, fel y mae rhai o bleidiau’r chwith wedi bod yn eu hannog nhw i wneud.
Bydd hefyd yn ddiddorol gweld faint o’r bobol ifanc 16 ac 17 oed fydd wedi pleidleisio. Dyma’r ail etholiad Senedd iddyn nhw allu gwneud hynny.
Ymateb y Blaid Lafur wrth i’r blychau pleidleisio gau
Cadeirydd Ymgyrch Llafur Cymru, Huw Irranca-Davies, nid y Prif Weinidog Eluned Morgan wnaeth ymateb wedi i'r ymgyrch ddod i ben nos Iau.
Dywedodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un “anodd” i’r blaid, a hynny “dan amgylchiadau heriol”.
“Ar ôl llawer o flynyddoedd mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur nawr yn llywodraethu ar draws y DU, roedd wastad mynd i fod ymdeimlad cryf o rwystredigaeth a newid. Mae’r pwysau costau byw parhaus y mae pobl yn eu teimlo yn wirioneddol ac yn cael eu teimlo’n ddwfn.
“Drwy gydol yr ymgyrch, mae Eluned Morgan wedi dangos arweinyddiaeth bositif, egnïol a phenderfynol yn ystod cyfnod anodd iawn. Fe wnaeth hi ymgymryd â’r her yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i Lafur Cymru ei wynebu erioed, gan arwain â dygnwch, chynhesrwydd a ffocws.”
Sut a lle mae modd dilyn arlwy Newyddion S4C?
Fe fydd yna wledd o gynnwys ar eich cyfer chi yma drwy gydol y dydd, ar draws ystod o lwyfannau.
Fe fydd darllediad byw o holl arlwy sianel S4C ar gael i’w wylio ar ein tudalen YouTube.
Bydd modd hefyd dilyn y canlyniadau a pigion o’r trafod a’r dadansoddi ar draws Facebook, Instagram, X a TikTok.
Fe allwch chi hefyd wrth gwrs aros yma ar hafan Newyddion S4C a darllen y diweddaraf o’r dadansoddiad, dilyn y map uchod wrth i’r canlyniadau ein cyrraedd ni, a hefyd gwylio pigion o gynnwys fideo ein gwasanaeth o bobman arall.
Croeso i flog byw Etholiad y Senedd 2026
Bore da a chroeso i flog byw Etholiad y Senedd, wrth i ni ddechrau’r hyn sy’n siŵr o fod yn ddiwrnod mawr yn hanes gwleidyddol Cymru.
Ym mhob un o’r etholiadau eraill i’r Senedd ers chwarter canrif, rydyn ni wedi gwybod ymlaen llaw pwy oedd y ffefryn clir i ennill, sef y Blaid Lafur.
Am y tro cyntaf yn hanes datganoli, mae yna ansicrwydd go iawn am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Reform neu Blaid Cymru fod y blaid fwyaf yn y Senedd.
Mae yna ansicrwydd hefyd ynghylch beth fydd y canlyniad i’r blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru gyhyd, sef y Blaid Lafur.
A yw’r blaid honno yn wynebu chwalfa, dod yn drydydd agos – neu a fydd yna sioc wrth iddi wneud yn well na’r disgwyl?
I gael gwybod yr atebion i’r holl gwestiynau hyn, gobeithio y byddwch chi’n ein dilyn ni am yr oriau nesaf!