Ymchwiliad wedi i 11 o ddefaid foddi wrth ffoi rhag ci yn Sir Gâr

Dafad - Caerfyrddin

Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi adroddiad bod 11 o ddefaid wedi boddi mewn afon ar ôl rhedeg i ffwrdd o gi yn Sir Gâr.

Cafodd swyddogion Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed Powys eu galw i gyfeiriad ar Heol Alltycnap, ger Caerfyrddin wedi i’r perchennog ddod o hyd i’w ddefaid yn farw.

Y gred yw bod y defaid wedi rhedeg i ffwrdd o gi oedd yn rhydd ar y tir, ac wedi eu gyrru i lawr yr arglawdd ac i mewn i’r afon ar 8 Chwefror.

Dywedodd y llu bod poeni defaid yn drosedd, ble mae cŵn yn rhedeg ar ôl da byw, gan achosi anaf.

“Nid yn unig yw hwn yn fygythiad i fywoliaeth ffermwr neu berchennog tir, ond mae’n sefyllfa beryglus i’r anifeiliaid, ac fe allai arwain at ragor o risg pe tasai’r anifeiliaid yn mynd ar y ffordd,” meddai llefarydd.

Fe allai unrhyw sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000114966.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.