Ymchwiliad i rodd o £5m i Nigel Farage yn ailddechrau wedi iddo ennill is-etholiad Clacton

Nigel Farage

Mae ymchwiliad seneddol i rodd gwerth £5 miliwn y derbyniodd Nigel Farage gan filiwnydd crypto wedi ailddechrau ar ôl i arweinydd Reform UK adennill ei sedd yn is-etholiad Clacton.

Cafodd yr ymchwiliad i'r honiad iddo fethu â chofrestru'r rhodd ei atal dros dro ar ôl i'r gwleidydd asgell dde ysgogi brwydr etholiadol drwy ymddiswyddo o'i sedd.

Dywedodd ei fod am amddiffyn ei enw da ar ôl i'r Comisiynydd Safonau Seneddol Daniel Greenberg gyhoeddi y byddai'n craffu ar gyllid Mr Farage a'i blaid.

Bydd yr ymchwiliad nawr yn ailddechrau ar ôl i Mr Farage gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Clacton mewn cystadleuaeth a gafodd ei hanwybyddu gan y prif bleidiau eraill yn San Steffan.

Canlyniad

Doedd y gwleidydd ddim yn bresennol yn y cyfrif yn etholaeth Clacton wrth i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn gynnar fore Gwener, gyda'i blaid yn dweud bod "bygythiad credadwy" i'w ddiogelwch - honiad sydd wedi cael ei wadu gan Heddlu Essex.

Roedd 34 o ymgeiswyr yn yr is-etholiad - mwy nag unrhyw bleidlais debyg yn hanes y DU - ond roedd prif bleidiau San Steffan, gan gynnwys Llafur, y Ceidwadwyr a'r Gwyrddion, wedi gwrthod sefyll, gan honni mai "stynt wleidyddol" oedd ymddiswyddiad yr arweinydd asgell dde.

Image
Ymgeiswyr yn Clacton, gan gynnwys Count Binface. PA/Joe Giddens
Count Binface (canol) ymhlith yr ymgeiswyr aflwyddiannus yn y cyfrif - ond roedd Nigel Farage yn absennol. (Llun: PA/Joe Giddens)

Yn y pendraw, cipiodd Mr Farage 22,239 o bleidleisiau yn yr etholiad anghyffredin, gan orffen ymhell o flaen yr ymgeisydd dychanol Count Binface, a ddaeth yn ail gyda 9,455 o bleidleisiau.

Cafodd gweddill yr ymgeiswyr - 32 ohonyn nhw i gyd - lai na 500 o bleideisiau yr un. 

Pleidleisiodd dros 44% o etholwyr yr ardal, sydd wedi ei lleoli ar arfordir Essex, ac sy'n cael ei hystyried yn un o gadarnleoedd Reform.

'Bygythiad' i Farage?

Cyn i'r canlyniad gael ei gyhoeddi, dywedodd Mr Farage mewn digwyddiad mewn rhan arall o'r etholaeth na fydd yn mynd i'r cyfrif yn nhref Clacton-on-Sea gan fod yr heddlu wedi ei hysbysu am ymgyrch "i darfu a thanseilio'r canlyniad" yng nghanolfan hamdden y dref.

Dywedodd y blaid yn ddiweddarach bod "Heddlu Essex wedi cynghori Nigel, i beidio mynd i'r cyfrif heno yn sgil bygythiad credadwy yn ei erbyn."

Ond yn ôl sawl ffynhonnell newyddion, mae'r heddlu'n gwadu eu bod wedi dweud wrth Mr Farage i gadw draw.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae gennym ni ymgyrch blismona gymesur a chadarn i sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan yn y cyfrif."

Image
Papur pleidleisio etholiad Clacton
Roedd y papur pleidleisio'n anghyffredin o hir ar gyfer yr etholiad.(Llun: Cyngor Ardal Tendring)

Wrth annerch ei gefnogwyr cyn y canlyniad, dywedodd Mr Farage ei fod wedi ennill yn "eithaf pendant" a bod y canlyniad, ynghanol ton wres chwilboeth yn yr ardal, yn yn arwydd o "gefnogaeth aruthrol" iddo.

Ond dydy'r canlyniad ddim yn debygol o dawelu'r pryderon sydd wedi eu codi gan y wasg a phleidiau eraill ynghylch trefniadau ariannol Mr Farage, gan gynnwys taliad o £5m gan y biliwnydd crypto Christopher Harborne, sy'n gefnogwr mawr i Reform.

Bu craffu hefyd ar ei gysylltiadau â'r dyn busnes George Cottrell, a gafodd ei garcharu am dwyll yn yr UDA yn 2017.

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.