Tân Llanymddyfri: Symud pobl o dai a chyhoeddi digwyddiad o bwys
Cafodd canolfan orffwys ei sefydlu yn Llanymddyfri, Sir Gâr, dros nos ac fe gafodd digwyddiad o bwys ('major incident') ei gyhoeddi yn dilyn tân mewn coedwig.
Mae ffordd yr A470 hefyd yn parhau ar gau fore dydd Gwener rhwng Rhaeadr Gwy a Llanwrthwl ym Mhowys o achos tân cyfagos.
Dywedodd Gorsaf Dân Llandrindod na ddylai pobl anwybyddu arwyddion sy'n nodi bod y ffordd ar gau.
"Mae'r ffordd ar gau er eich diogelwch eich hun ac i alluogi gwasanaethau brys a thimau priffyrdd yr awdurdod lleol i ymdrin yn ddiogel â'r digwyddiad sy'n mynd yn ei flaen.
"Neithiwr, syrthiodd coeden fawr iawn yn yr ardal lle mae'r ffordd ar gau, gan dynnu sylw at y peryglon parhaus yn yr ardal.
Peidiwch â cheisio mynd heibio i'r man lle mae'r ffordd ar gau na mynd i mewn i'r ardal."
Tân coedwig
Dywedodd Cyngor Sir Gâr fod sawl eiddo ger Llanymddyfri wedi eu "gwagio o dan reolaeth tra bod y gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad", sef tân mewn coedwig.
Cafodd y ganolfan i'r rhai oedd ei hangen ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri.
Dywedodd criw o Orsaf Dân Llanymddyfri eu bod wedi derbyn negeseuon gan deulu, ffrindiau ac aelodau o'r gymuned sy'n poeni amdanynt a'r sefyllfa yn ehangach ddydd Iau.
"Cymerwch y neges hon fel sicrwydd ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gadw eiddo'n ddiogel yma ym mryniau Rhandirmwyn!
"Rydym ni'n boeth ac yn chwyslyd, ond yn hynod ddiolchgar am gael gwasanaethu ein cymuned yn y cyfnod pryderus hwn!", meddai'r neges ar Facebook.
'250 hectar' yn llosgi
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi bod yn brwydro'r fflamau yn Rhandirmwyn ers 12:45 ddydd Mercher.
"Oherwydd maint, cymhlethdod ac effaith posib y tân gwyllt, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bellach wedi datgan bod 'Digwyddiad Mawr' ar y gweill.
"Mae Grŵp Cydlynu Tactegol aml-asiantaeth hefyd wedi'i sefydlu i gydlynu'r ymateb, cefnogi cymunedau sydd wedi eu heffeithio a sicrhau dull cydweithredol rhwng y gwasanaethau brys a sefydliadau partner.
"Mae'r tân yn effeithio ar tua 250 hectar o dir."
Ychwanegodd y datganiad fod diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio drwy gydol y digwyddiad i gyfyngu ar ymlediad y tân.
Roedd criwiau'n parhau yn y lleoliad nos Iau, tra'n parhau i fonitro a rheoli'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio.
"Fel rhagofal, mae nifer o gartrefi wedi'u gwagio," meddai'r gwasanaeth tân.
Mae Cyngor Tref Llanymddyfri wedi diolch i'r diffoddwyr tân am eu hymdrechion.