Dyn yn euog o ddynladdiad tad i 11 o blant yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi ei gael yn euog o ddynladdiad tad i 11 o blant o Gaerdydd.
Fe gafwyd Mujeeb Rahman Hassani, 38 oed, o Dre-biwt yn y brifddinas yn euog o ddynladdiad ddydd Iau, a hynny ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Bu farw Ibrahim Yassin yn dilyn ymosodiad treisgar yn Rhodfa Belmont, Tre-biwt, tua 09:00 ar ddydd Sul, 18 Chwefror 2024.
Fe gafodd Mr Yassin, oedd yn 64 oed, ei drywanu sawl gwaith yn ei gartref.
Cafodd Hassani ei arestio gerllaw.
Fe gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, ond yn ystod yr achos llys yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd y rheithgor gyfarwyddyd i ganfod Hassani yn ddieuog o'r cyhuddiad hwnnw.
Clywodd y llys nad oedd y diffynnydd yn ei iawn bwyll ar adeg y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Claire Lamerton, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol Heddlu De Cymru: “Roedd Mr Ibrahim Yassin yn dad ymroddedig i’w 11 o blant ac yn cael ei barchu’n fawr yng nghymuned Tre-biwt.
“Fe achosodd ei farwolaeth alar a thrallod aruthrol i’w deulu ac i gymuned glos Tre-biwt.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau, fel y maent wedi bod ers ei farwolaeth drasig, ac estynaf fy nghydymdeimlad diffuant iddynt.”
Bydd Hassani yn aros yn Ysbyty Ashworth nes iddo gael ei ddedfrydu ar 16 Hydref.