Ymchwiliad heddlu i ddifrod troseddol 'o natur hiliol' ar draeth yn Sir Benfro
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddifrod troseddol o natur hiliol ar draeth yn Sir Benfro rhwng 7 ac 8 Awst.
Dywedodd yr heddlu fod y difrod wedi ei wneud i loches ar Draeth Parrog yn y sir, drwy chwistrellu graffiti o natur hiliol arni.
Ychwanegodd y llu "nad oes unrhyw le i ymddygiad hiliol na chasinebus" yn yr ardal.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal neu unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000649107.