Dynes yn ddieuog wedi marwolaeth dyn a ddioddefodd ymosodiad XL Bully
Mae dynes o Wrecsam sy'n gweithio fel therapydd harddwch wedi ei chael yn ddieuog o fod yn berchen ar, neu yng ngofal, ci American XL Bully oedd allan o reolaeth pan gafodd tad ei phartner ei ladd.
Roedd Chanel Fong, 33 oed, wedi gwadu’r cyhuddiad yn ei herbyn yn Llys y Goron Caernarfon.
Bu farw Keven Jones, 62 oed, cyn-yrrwr cerbydau nwyddau trwm, ar ôl cael ei frathu gan gi o'r enw Cookie, yng ngardd gefn cartref Ms Fong ar Ffordd Holt, Wrecsam, ym mis Mai 2022.
Clywodd y rheithgor fod pedwar ci XL Bully yn y cartref, ond dywedodd Ms Fong mai ei phartner oedd yn berchen arnynt. Dywedodd mai ci pinscher bach oedd ei chi hi.
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod Ms Fong wedi clywed Mr Jones yn dweud: “Cookie get off me mate”, cyn iddi fynd allan a dweud wrth y ci am adael llonydd iddo.
Dywedodd fod gwaed yn pwmpio o goes Mr Jones a’i bod wedi defnyddio blanced i’w lapio cyn ffonio 999. Rhoddodd gywasgiadau ar ei frest wrth geisio ei achub cyn i barafeddygon gyrraedd, ond bu farw yn y fan a’r lle.
Clywodd y llys fod Mr Jones wedi dioddef pedwar clwyf sylweddol.
Dywedodd bargyfreithiwr Ms Fong, Rebecca Filletti, wrth y rheithgor nad oedd cŵn XL Bully wedi’u gwahardd ar adeg y digwyddiad, gan ychwanegu nad oedd marwolaeth drasig ynddi’i hun yn gyfystyr ag euogrwydd.
Cymerodd y rheithgor dair awr i ddychwelyd rheithfarn o ddieuog.
Wrth annerch y rheithgor wedi’r rheithfarn, dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod yr achos wedi bod yn un “emosiynol iawn”, gan ychwanegu bod achosion o’r fath yn brin.