Ymchwiliad llofruddiaeth: Heddlu ddim yn diystyru cysylltiad â gwrthdrawiad yr A66
Nid yw’r heddlu wedi diystyru cysylltiad posibl rhwng ymchwiliad i lofruddiaeth ger Middlesbrough a gwrthdrawiad lai na dwy filltir i ffwrdd ar yr A66 a laddodd saith o bobl.
Dywedodd swyddogion eu bod nhw wedi dechrau ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i ddau berson farw mewn tân ar Heol Birchington, yn Grangetown, fore dydd Mercher.
Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu, gan gynnwys menyw sydd mewn cyflwr difrifol.
Digwyddodd y tân lai na dwy filltir o leoliad gwrthdrawiad ddydd Sul rhwng Volkswagen Passat, a oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar ffordd ddeuol, a cherbyd yr heddlu.
Cafodd PC Matthew Blades, 37 oed, a PC Tom Clough, 38 oed, eu lladd yn y gwrthdrawiad yn South Bank.
Bu farw y pum person yn y Passat - Cole Worthy, 17 oed, Theo Rae, 17 oed, Makai Saddington, 18 oed, a Michael Robert Cahill a Jacob Matusiak, a oedd ill dau yn 23 oed - yn y fan a’r lle.
Nid yw Heddlu Cleveland wedi diystyru cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Dywedodd y llu “na allwn ddiystyru unrhyw gysylltiadau â throseddu cyfundrefnol ehangach ar hyn o bryd”.
Cafodd swyddogion eu galw i’r tân ychydig cyn 05.30 fore Mercher. Cafodd marwolaethau dau berson eu cadarnhau yn ddiweddarach.
Mae menyw yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Brenhinol Victoria yn Newcastle. Cafodd tri pherson arall anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.
Maen nhw’n cael triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Emily Harrison, Pennaeth Plismona Lleol Redcar a Cleveland: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd, yn anffodus, wedi arwain at farwolaethau nifer o bobl y bore yma.
“Mae eu teuluoedd yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbennig.
“Rydyn ni’n gweithio i ganfod union amgylchiadau’r hyn sydd wedi digwydd, ond rydyn ni’n cadw meddwl agored ac ni allwn ddiystyru unrhyw gysylltiadau â throseddu cyfundrefnol ehangach ar hyn o bryd."
Ychwanegodd: “Bydd presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn ardal Grangetown wrth i’r ymchwiliad hwn fynd rhagddo.
“Bydd hynny hefyd yn rhoi sicrwydd i’r cymunedau lleol, a fydd heb os wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn."
