Cannoedd ar goll gan gynnwys ymwelwyr wedi llifogydd sydyn yn Nepal

Llun: Reuters
Llifogydd Sydyn Nepal

Mae cannoedd o bobl ar goll wedi i lifogydd enfawr daro rhan o Nepal yn sydyn.

Ymysg y rhai sydd ar goll mae cannoedd o ymwelwyr tramor gan gynnwys 12 o Brydain, gyda merch Brydeinig 13 oed yn eu plith.

Cafodd y llifogydd pwerus yn rhanbarth Rasuwa, sy'n agos i'r ffin â Tibet yn Tsieina, ei ysgogi gan dirlithriad ddaeth â rhew a chreigiau i lawr o'r mynyddoedd.

Fe wnaeth cwmni Alpine Eco Trek, sy'n cynnig teithiau tywys yn Nepal, gadarnhau fod 12 o Brydain oedd ar eu taith ar draws y ffin rhwng Nepal a Tibet ar goll ddydd Mercher.

Mae bwrdd twristiaeth y wlad wedi cadarnhau eu bod ymhlith y 384 o bobl sydd ar goll yn y rhanbarth.

Dywedodd Ram Kumar Adhikari, rheolwr Alpine Eco Trek, mai'r gred yw bod dau o Iwerddon a phedwar o Dde Affrica, oedd hefyd ar y daith, ar goll.

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion y Press Association o'r ardal sydd wedi ei heffeithio, dywedodd Mr Adhikari nad oedd "llawer o wybodaeth i'w rannu ar hyn o bryd, ond mae gennym 12 o ddinasyddion Prydeinig (oedd i fod) i groesi'r ffin y bore yma".

Mae oedran y dinasyddion Prydeinig sydd ar goll yn amrywio rhwng 13 oed a 65 oed, yn ôl cofnodion sydd wedi eu gweld gan y Press Association.

Ar goll

Yn ôl bwrdd twristiaeth y wlad, mae 384 o ymwelwyr ar goll, gan gynnwys dinasyddion India, yr Unol Daleithiau a Malaysia, yn ogystal ag ymwelwyr o Nepal ei hun.

Dywedodd yr awdurdodau lleol bod afon Bhotekoshi wedi gorlifo fore Mercher, gan ddinistrio sawl pentref yn ogystal â ffyrdd a phrosiectau trydan dŵr. Mae lluniau o'r ardal yn dangos pentrefi wedi eu gorchuddio â dŵr mwdlyd, trwchus.

Hyd yma, mae swyddogion wedi cadarnhau bod wyth person wedi marw, ond mae'r niferoedd yn debygol o gynyddu'n sylweddol.

Rhybudd teithio

Mewn datganiad ddydd Mercher, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor rybudd teithio i bobl oedd yn bwriadu teithio i'r ardal sydd wedi dioddef:

"Ar 26 Awst 2026, achosodd llifogydd difrifol yn ardal Rasuwa ac ar hyd y ffin rhwng Nepal a Tsieina ddifrod helaeth. 

"Mae adeiladau, ffyrdd ac isadeiledd trafnidiaeth a chyfathrebu eraill wedi dioddef difrod difrifol. 

"Mae ardaloedd eraill yn Nepal, gan gynnwys Chitwan, hefyd wedi cael eu heffeithio. Mae awdurdodau a gwasanaethau brys Nepal yn ymateb i'r sefyllfa. 

"Gall y sefyllfa newid yn gyflym."

Ychwanegodd y datganiad: "Os ydych chi'n teithio yn yr ardal, dilynwch gyngor llywodraeth Nepal ac awdurdodau lleol, a byddwch yn ymwybodol o'r sefyllfa sy'n newid. 

"Mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif brys di-dâl yn yr iaith Nepali (1234) a llinell gymorth bwrpasol (1144) y gellir eu defnyddio yn Nepal."

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.