'Wrth ein bodd': Ymgyrch leol yn codi £147,000 i brynu tafarn ym Mhenmachno

Ymgyrchwyr tu allan i dafarn y eagles

Mae ymgyrch gymunedol ym Mhenmachno, sir Conwy, wedi llwyddo i godi digon o arian i brynu’r dafarn leol o fewn 11 wythnos.

Bydd Tafarn yr Eagles/Tŷ Uchaf bellach yn cael ei phrynu gan y grŵp cymunedol Cynnal Bro Machno, a bydd yn cael ei rhedeg fel busnes sy’n eiddo i’r gymuned.

Er mwyn codi’r arian, fe werthwyd cyfranddaliadau i bobl leol, ac roedd cyfle hefyd i roi rhodd i’r ymgyrch.

Y dyddiad cau i brynu cyfranddaliadau oedd dydd Llun, 4 Mai. Y ffigwr terfynol yw £147,000.

Roedd yr ymgyrch yn gydweithrediad rhwng pentrefi Penmachno a Chwm Penmachno.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Gerwyn Edwards, cadeirydd grŵp cymunedol Cynnal Bro Machno, “Da ni wrth ein boddau! Da ni di gweithio'n galed iawn. Da ni'n mond di dechrau hel pres ers Diwrnod Sant Ffolant!”

“Mae pob cymuned angen canolbwyntiau yn dyden. Mae genan ni neuadd pentre, mae'r eglwys yn gored, ma'r capel yn gored. Mae'r dafarn yn gored wan, ac mae hyn i gyd yn dod a teuluoedd ifanc i fyw yn Penmachno a cadw bobl ifanc Penmachno yn Penmachno.

“Mae saith deg y cant o'r pres yma i gyd wedi dod o'r gymuned rhwng Penmachno a Cwm Penmachno.

“Mae yna bedwar cant naw deg pedwar o aelodau wedi talu mewn cyfrandaliadau sydd yn meddwl bod jyst i bob un tŷ yn Benmachno di cyfrannu rhywfaint.”

Y cam nesaf, yn ôl Gerwyn, yw i’r cyfranddalwyr ddewis pwyllgor, ac yna bydd y pwyllgor yn dewis rheolwyr ar gyfer y dafarn.

Image
Codi arian tu allan i'r eagles
Mae'r arwydd tu allan i'r Eagles wedi ei ddiweddaru'n gyson drwy gydol yr Ymgyrch

Pwysigrwydd y dafarn leol

Wrth sôn am bwysigrwydd y dafarn i’r gymuned, dywedodd Gerwyn fod yna “gymaint o bethau yn mynd mlaen” yn y dafarn.

“Mae na glwb garddio," meddai. "Mae na ddosbarthiadau Cymraeg. Mae’r sesiwn fach yn dod at ei gilydd. Fydd na ryw hanner cant, chwedeg o bobol yn y dafarn a mae hynny’n digwydd yn fisol."

Tynnodd sylw at bwysigrwydd y dafarn o ran cynnal y Gymraeg yn lleol ac o ran denu siaradwyr newydd hefyd.

“Allan o’r dosbarthiadau Cymraeg, hyd yn hyn da ni di cael dau neu dri neu bedwar wrach sy di cael eu rhoi ymlaen am ddysgwyr y flwyddyn sydd yn dda iawn dydy hi cymuned fach fel hyn," meddai.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Fenter Iaith Conwy a Sefydliad Plunkett.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.