Cadoediad Iran dan straen wrth i’r ddwy ochr danio ergydion yng Nghulfor Hormuz

Donald Trump a Culfor Hormuz

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi gwrthod dweud a yw’r cadoediad rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran yn dal yn ei le.

Daw ar ôl i’r ddwy ochr, yr Unol Daleithiau ac Iran, danio ergydion yng Nghulfor Hormuz.

Dywedodd yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE), sy’n gynghreiriad i’r Unol Daleithiau, fod ei hamddiffynfeydd awyr wedi “ymateb” i 19 o daflegrau a dronau o Iran ddydd Llun. 

Dywedodd hefyd fod ymosodiad gan ddrôn wedi achosi tân mewn porthladd olew mawr Fujairah.

Yn y cyfamser, mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud nos Lun bod yr Unol Daleithiau wedi taro saith o “gychod cyflym” (‘fast boats’) Iran yng Nghulfor Hormuz.

Roedd hynny wedi i Iran ymosod ar long cargo o Dde Corea, meddai.

“Rydym wedi saethu saith cwch bach neu, fel maen nhw’n hoffi eu galw, cychod ‘cyflym’,” meddai Trump.

“Dyna’r cyfan sydd ganddyn nhw ar ôl. Ar wahân i’r llong o Dde Corea, does dim difrod ar hyn o bryd i longau sy’n mynd drwy’r culfor.”

Gwadodd cyfryngau Iran â chyhoeddiad Trump fod yr Unol Daleithiau wedi taro’r cychod cyflym.

Dywedodd asiantaeth newyddion Tasnim mai dau gwch cargo bach gafodd eu taro, gan ladd pump o sifiliaid.

Mae Culfor Hormuz wedi aros bron yn gyfan gwbl ar gau ers i’r Unol Daleithiau ac Israel lansio ymosodiadau awyr ar Iran ym mis Chwefror.

Mae 20% o olew a nwy naturiol hylifedig y byd fel arfer yn mynd drwy’r culfor.

Yn gynnar ym mis Ebrill, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau ac Iran gadoediad. O dan y cytundeb, daeth Iran â’i hymosodiadau gan dronau a thaflegrau ar wledydd y Gwlff i ben.

Ond ychydig o longau sydd wedi gallu teithio drwy’r culfor ers hynny. Mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi 

Arlywydd Donald Trump â Beijing yr wythnos nesaf gymhlethu unrhyw benderfyniad i ailddechrau’r rhyfel ag Iran.

Mae Tsieina wedi galw am ailagor Culfor Hormuz, lle mae llawer o’r cynhyrchion ynni y mae’n dibynnu arnyn nhw yn teithio drwyddo.

Llun Culfor Hormuz gan Reuters, llun Donald Trump gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.