Hedfan dyn oedd wedi ei anafu o arfordir Ynys Môn

Llanddona

Fe gafodd dyn oedd wedi ei anafu ei gludo mewn hofrennydd o arfordir Ynys Môn ddydd Sul.

Dywedodd elusen Canfod ac Achub (SAR) Ynys Môn bod Heddlu’r Gogledd wedi galw am eu cymorth am 15.53 ddydd Sul.

Roedd dyn wedi ei anafu yn Llanddona.

Anfonwyd chwe thechnegydd, dau feddyg tîm, a cherbyd ymateb 4x4.

“Cyrhaeddodd y tîm y safle o fewn 23 munud i’r alwad a gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu gofal i’r anafedig a’i baratoi'n ddiogel ar gyfer ei gludo odd yno,” meddai llefarydd ar ran tîm Canfod ac Achub Ynys Môn.

“Roeddem yn ffodus o gael cefnogaeth gan ein hofrennydd achub SAR lleol. 

“Cafodd yr anafedig ei sefydlogi a’i drosglwyddo i’r awyren ar gyfer ei gludo oddi ar y bryn, cyn cael ei drosglwyddo i ambiwlans tir ar dir mwy diogel a hygyrch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.