Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili
Mae gyrrwr beic modur 44 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A472 yn Hafodyrynys, Sir Caerffili brynhawn Llun.
Yn ôl Heddlu Gwent, digwyddodd hynny tua at 14.35, ac roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae plismyn sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn awyddus i siarad â modurwyr a oedd yn teithio ar ffordd yr A472 rhwng 14.00 a 14.40, ddydd Llun 4 Mai.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif 2600138341, neu anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol.