Arestio dyn wed ymosodiad honedig yn Abertyleri
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i ddyn 60 oed gael anaf difrifol i'w ben yn Abertyleri, Blaenau Gwent, yn gynnar fore Llun.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y dyn ei ddarganfod wedi ei anafu ar heol gul oddi ar Division Street.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty, ac mae e mewn cyflwr difrifol.
Mae'r dyn 55 oed sydd wedi ei arestio yn cael ei holi yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 23:30 nos Sul 3 Mai, a 12:30 fore Llun 4 Mai, neu sydd â gwybodaeth allai fod yn ddefnyddiol i'w hymchwiliad.
2600137848 yw'r rhif i'w nodi wrth gysylltu â Heddlu Gwent gydag unrhyw wybodaeth.
Mae modd ffonio 101 neu anfon neges breifat drwy gyfryngau cymdeithasol neu wefan y llu.