Yr Unol Daleithiau yn taro ynys sy'n allweddol i allforion olew Iran

Ynys Kharg

Fe wnaeth yr Unol Daleithiau ymosod ar ynys yn Iran sy’n hollbwysig i’w hallforion olew nos Wener, yn ôl Donald Trump.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau eu bod nhw wedi taro canolfannau milwrol ond wedi osgoi taro seilwaith olew hanfodol ar Ynys Kharg.

Mae Ynys Kharg yn ddarn o dir pum milltir o hyd yng Ngwlff Persia sy’n trin tua 90% o allforion olew crai Iran.

Daw hyn wrth i’r Pentagon gyhoeddi y bydd y milwyr cyntaf yn cael eu hanfon i faes y gad yn y Dwyrain Canol.

Dywedodd swyddogion y Pentagon eu bod nhw’n bwriadu gyrru uned sy’n cynnwys tua 2,500 o fôr-filwyr a morwyr.

Nid yw’n glir eto i ble yn union y byddant yn cael eu hanfon, wrth i’r Unol Daleithiau ymdrechu i ail-agor Culfor Hormuz rhwng Iran ac Oman sy’n hollbwysig i gludo 20% o olew y byd.

Mae gwledydd wedi ymateb drwy ryddhau cronfeydd olew wrth gefn.

Wrth i'r farchnad gau ddydd Gwener, roedd prisiau olew byd-eang ar eu lefel uchaf ers mis Gorffennaf 2022, wrth i bryder ynghylch cau’r culfor barhau ar draws marchnadoedd y byd.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, fod yr UDA wedi bomio “pob targed milwrol” ar Ynys Kharg a dywedodd y byddai hefyd yn ymosod ar ei seilwaith olew os bydd Iran yn parhau i rwystro llongau rhag teithio drwy Gulfor Hormuz.

Ychwanegodd ddydd Gwener ei fod yn credu y bydd llynges yr UDA yn dechrau hebrwng tanceri drwy’r culfor “yn fuan”.

Roedd Llefarydd Senedd Iran, Mohammad Baqer Qalibaf, wedi rhybuddio’n gynharach y byddai’r wlad yn “rhoi’r gorau i ddal yn ôl” os oedd unrhyw ymosodiad Americanaidd ar ynysoedd Iran.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.