'Un gêm ar y tro': Cymru i herio Montenegro wedi trafferthion teithio

Mia Ross

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Mia Ross, yn dweud bod y garfan yn canolbwyntio ar "un gêm ar y tro" wrth iddyn nhw wynebu Montenegro oddi cartref nos Wener.

Dyma fydd eu gêm olaf ond un yn y cymal grwpiau, cyn i dîm Rhian Wilkinson chwarae yn y gemau ail-gyfle i geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd ym Mrasil y flwyddyn nesaf.

Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, ond bydd eu safle terfynol yn y grŵp yn effeithio ar bwy fydd y crysau cochion yn chwarae yn eu herbyn yn y gemau ail-gyfle.

Bydd Cymru yn wynebu Montenegro nos Wener, a hynny wedi trafferthion wrth geisio cyrraedd y wlad oherwydd tywydd gwael.

Nid oedd yr awyren oedd yn cludo'r chwaraewyr a'r staff yn gallu glanio yn y brifddinas, Podgorica, nos Iau oherwydd storm, ac roedd yn rhaid eu hailgyfeirio i Brindisi yn yr Eidal.

Fe lwyddodd y chwaraewyr i gael gwesty, ond roedd yn rhaid i'r rheolwr, Rhian Wilkinson, a rhai o'r staff hyfforddi gysgu yn y maes awyr.

Nos Iau fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddweud fod y garfan a hyfforddwyr wedi cyrraedd Podgorica yn ddiogel.

Enillodd Cymru 6-1 yn erbyn Montenegro yn Llanelli ym mis Mawrth, gyda'r ferch o Drawsfynydd, Mared Griffiths, yn sgorio dwy gôl.

Mae Cymru ar yr un nifer o bwyntiau â Tsiecia, sydd ar frig grŵp B1, tra bod Montenegro heb ennill yr un pwynt.

Fe wnaeth chwaraewr canol cae Cymru, Mia Ross, greu un o goliau Cymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Montenegro, ac mae'n dweud bod Cymru eisiau "adeiladu momentwm" cyn herio Tsiecia nos Fawrth yng Nghaerdydd.

"Heb os, mae 'na dal ffordd hir o'n blaenau," meddai.

"Yn sicr, dwi'n meddwl mai un gêm ar y tro ydi hi. Sicrhau ein bod ni'n perfformio'n dda yn erbyn Montenegro, ceisio sgorio cymaint o goliau â phosib, ond amddiffyn yn dda hefyd.

"Rydym eisiau gorffen y gêm gyda pherfformiad cryf er mwyn adeiladu momentwm."

Mae Ceri Holland ac Olivia Clark wedi dychwelyd i'r garfan ar gyfer y gemau olaf yn y grŵp.

Mae Lois Joel a Laura Hughes hefyd wedi dychwelyd i'r garfan, tra bod Hayley Ladd heb ei chynnwys oherwydd anaf.

Dyma'r garfan lawn:

Bydd uchafbwyntiau'r gêm ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 21:00 nos Wener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.