Menyw o Sir Benfro'n galw am fwy o ymwybyddiaeth o effaith cemotherapi ar ffrwythlondeb

Elan Davies

Mae menyw 35 oed o Sir Benfro a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2023 yn galw am greu mwy o ymwybyddiaeth o effaith cemotherapi ar ffrwythlondeb. 

Mae Elan Davies o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro yn wreiddiol, ond bellach yn byw yng Nghwmann yn Sir Gâr gyda'i gŵr. 

Fe wnaeth Elan ddarganfod lwmp yn ei bron ym mis Gorffennaf 2023, cyn cael diagnosis swyddogol o ganser math triphlyg positif ym mis Medi y flwyddyn honno. 

O gwmpas yr un cyfnod, fe gafodd cyfneitherod Elan, y gyflwynwraig Mari Grug a'i chwaer Lisa, hefyd ddiagnosis o ganser y fron. 

Mae triniaeth cemotherapi yn gallu atal yr ofarïau rhag gweithio, ac fe all hyn arwain at anffrwythlondeb dros dro neu yn barhaol, yn ogystal ag achosi'r menopos yn gynt.

Image
Elan gyda'i chyfneitherod, Mari a Lisa.
Elan gyda'i chyfneitherod, Mari a Lisa.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Elan: "O’n i ar y pryd jyst yn cymryd yn ganiataol mai canser y fron oedd canser y fron, bod dim mathau gwahanol ond ges i ddiagnosis o fath triphlyg positif o ganser y fron sy’n golygu bod y canser yn bwydo oddi ar dri prif beth sef estrogen, progesterone a’r protein ‘ma sydd yn y corff o’r enw HER2."

Roedd cael diagnosis o ganser y fron a hithau ond yn 32 oed ar y pryd yn "sioc ofnadwy" i Elan. 

"Sai’n credu bod neb yn disgwyl diagnosis canser pa bynnag oedran y’n nhw ond fi’n credu yn enwedig pan ti’n ifanc ac yn iach, doedd ddim un symptom arall ‘da fi heblaw am yr un lwmpyn bach ‘ma, o’dd e ddim yn boenus, o’dd dim un sgil-effaith arall o ganlyniad i‘r canser," meddai. 

A hithau wedi bod yn briod ers rhyw flwyddyn yn unig cyn iddi gael y diagnosis, roedd Elan a'i gŵr wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ddechrau teulu. 

"Pan ges i’r diagnosis ym mis Gorffennaf 2023, o’n i ‘di bod yn briod ers rhyw flwyddyn felly yn naturiol wedi bod yn trafod yr opsiwn o gael plant ers sawl blwyddyn siwr o fod cyn hynny, a penderfynu bo’ ni’n barod i drial cael plant a bod e’r cyfnod iawn i ni," meddai Elan. 

"Yn llythrennol rhyw wythnos cyn hynny, nes i ffeindio’r lwmpyn a penderfynu roien ni’r cynlluniau i drial am blant on hold ar y pryd jyst i gael gweld bod popeth yn iawn bryd hynny."

Image
Elan ar ddiwrnod olaf ei thriniaeth cemotherapi ym mis Mawrth 2024.
Elan ar ddiwrnod olaf ei thriniaeth cemotherapi ym mis Mawrth 2024.

Ar ôl cael y diagnosis swyddogol ym mis Medi, roedd yn rhaid i Elan a'i gŵr roi'r gorau i'w cynlluniau i gael teulu am gyfnod mwy hir-dymor. 

"Nethon ni sylweddoli bydde’r broses yn gorfod cael ei rhoi on hold am fwy o amser, a wedyn beth o’n i ddim yn sylweddoli falle ar y pryd yn iawn yw bod cemotherapi a sgil-effeithiau cemotherapi yn gallu hala’r corff mewn i beth ma’ nhw’n galw’n medically-induced menopause ," meddai.

"Yn enwedig gyda’r math o ganser o’dd gyda fi, sef triple positive, ma’r canser yn bwydo oddi ar hormonau fel estrogen a progesterone felly ma’n risg bod y lefelau o'r rhain yn uchel yn y corff."

Mae lefelau estrogen yn cynyddu'n sylweddol yn ystod beichiogrwydd, a fyddai'n risg i fenywod sydd â chanser y fron sydd yn cael ei fwydo gan estrogen. 

Ychwanegodd Elan: "Ma’ nhw’n gweud hefyd yn y dwy tair blynedd cyntaf ar ôl mynd trwy triniaeth ganser ma’r canser y fwyaf tebygol o ddod nôl felly un ffordd ma’ nhw’n trial osgoi hwnna i ddigwydd yw i roi’r corff mewn i be’ ma’ nhw’n galw yn medically induced menopause felly ma’n oedi y broses o gael plant hyd yn oed yn fwy."

Yn dilyn y diagnosis, fe gafodd Elan drafodaeth am yr opsiynau posib er mwyn cael y cyfle gorau o hyd i ddechrau teulu. 

"Nathon ni sôn bo’ ni bendant isie plant a nathon nhw awgrymu yn gryf bod e’n beth synhwyrol i neud i rewi wyau neu embryos er mwyn trial amddiffyn yr opsiwn 'na o ran ffrwythlondeb a fi’n lwcus iawn ac yn ffodus iawn bo’ hwnna yn opsiwn," meddai. 

Image
Elan yn cyrraedd Base Camp Everest union ddwy flynedd ar ôl cale diagnosis.
Elan yn cyrraedd 'Base Camp' Everest union ddwy flynedd ar ôl cael diagnosis.

Mae Elan yn ddiolchgar iawn fod hyn wedi gallu bod yn opsiwn iddyn nhw fel teulu pe bai angen ystyried opsiynau eraill yn y dyfodol.

"Ar hyn o bryd, fi ddim yn siwr beth yw’r sefyllfa os bydd angen nhw neu beidio, os yw’r cemotherapi wedi effeithio arna i o ran yr ochr ffrwythlondeb ond blynyddoedd yn ôl, bydde rhewi wyau ddim yn opsiwn o gwbl," meddai.

"Ni mor ffodus bod gwyddoniaeth wedi datblygu gymaint a bod hwnna yn opsiwn jyst ar gyfer tawelwch meddwl. Os bydd angen nhw lawr y lein wedyn bo ni’n gw’bod bo ni wedi gallu neud popeth gallwn ni i neud siwr bod hwnna yn mynd i fod yn opsiwn ar gyfer y dyfodol os bydde angen."

Ar ôl gorffen triniaeth, fe gafodd Elan wybod y byddai'n rhaid iddi fod ar dabledi am 10 mlynedd er mwyn lleihau'r posibilrwydd o'r canser yn dychwelyd. 

Mae'r tabledi hyn yn ceisio lleihau'r lefelau o estrogen neu progesterone yn y corff, neu atal eu heffeithiau.

Nid yw'n cael ei gynghori i ddisgyn yn feichiog tra'n cymryd y tabledi, a hynny oherwydd y gallai'r driniaeth effeithio ar y ffoetws.

Yn ôl elusen Ymchwil Canser, y cyngor meddygol cyffredinol yw i ddisgwyl am ddwy flynedd ar ôl triniaeth cyn disgyn yn feichiog, a hynny oherwydd fod canser y fron yn fwyaf tebygol o ddychwelyd o fewn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl diagnosis. 

Ond mae modd cael cyfnod oddi ar y tabledi ar ôl dwy flynedd a hynny er mwyn rhoi'r cyfle i ddisgyn yn feichiog, ac mae ymchwil yn dangos nad yw cael seibiant tymor-byr yn effeithio ar y risg o'r canser yn dychwelyd.

Image
Elan
Fe gafodd Elan ddiagnosis o ganser y fron ym mis Medi 2023. 

A hithau yn ymwybodol bod angen iddi fod ar y tabledi am 10 mlynedd, roedd Elan yn poeni y byddai hyn yn golygu na fyddai modd iddi allu cael unrhyw obaith o ddechrau teulu yn y dyfodol.

"Pan nes i glywed na gynta 'You’ll be on these for 10 years', o’n i’n meddwl bod fy nghyfle i o gael plant wedi gorffen ond wedyn trafod mwy a dod i ddeall ma’ bosib cael brêc," meddai.

"Er mor anodd yw e i ddelio ‘da’r ffaith bo’ dim plant ‘da ni ar hyn o bryd, a mae sgil-effeithiau'r menopos yn gallu bod yn anodd iawn ar adegau ma' rhaid fi gofio fod e, gobeithio, yn cadw’r canser bant a faint mor ffodus ydw i i fod mewn sefyllfa fel ‘na... jyst newid meddylfryd a ffordd o feddwl rili o fod yn ddiolchgar am y driniaeth ‘ma."

Ond mae Elan hefyd yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn holi eraill am eu cynlluniau i gael plant.

"Mae dewis cael plant yn rhywbeth mor bersonol, ac mae mynd trwy hyn i gyd wedi gwneud i fi sylweddoli bod shwrne pawb yn wahanol," meddai.

"Dim pawb sy’n gallu cael plant, dim pawb sy’ isie plant. Mae sylwadau fel gofyn i bobol 'pryd mae nhw'n bwriadu cael plant' yn gallu teimlo'n rhywbeth hollol ddiniwed, ond mae'r sylwadau yn gallu bod yn rhai anodd i'w clywed am wahanol resymau," meddai.

'Seibiant o'r driniaeth'

Roedd Dr Paul Gopurathingal, sydd yn Oncolegydd Clinigol arbenigol ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, yn gofalu am Elan ystod ei thriniaeth. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Cyn i ni drafod cemotherapi, rydym ni wastad yn trafod cynlluniau teuluol y claf, p'un ai os ydyn nhw wedi cwlbhau eu teulu, neu yn gobeithio disgyn yn feichiog. Fe fydd y pethau yma i gyd yn cael eu trafod. 

"O ran y driniaeth endocrin, rydym yn gofyn i gleifion fod ar y driniaeth am o leiaf dwy flynedd, ac ar ôl hynny, rydym yn dweud wrthyn nhw fod modd cael seibiant o'r driniaeth pe baen nhw'n dymuno ceisio disgyn yn feichiog."

'Opsiynau ar gael'

Mae Dr Louise Hanna yn Oncolegydd Clinigol ac yn un o swyddogion Coleg Brenhinol y Radiolegwyr. 

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Dr Hanna: "Mae cemotherapi yn bendant yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb, felly pan y mae menywod yn derbyn cemotherapi, gall eu ffrwythlondeb gael ei effeithio dros dro, ac rydym ni’n argymell defnyddio dulliau atal cenhedlu tra ar driniaeth am ganser oherwydd fe all niweidio’r ffoetws.

"Mae’r posibilrwydd o adennill eich ffrwythlondeb ar ôl cemotherapi yn dibynnu ar eich oed. Yr ieuengaf ydych chi, y mwyaf tebygol ydych chi o adennill eich ffrwythlondeb, ac mae hynny ar sail yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘ovarian reserve’ oherwydd mae menywod yn cael eu geni gyda nifer penodol o wyau, ac nid yw’r rhain yn cael eu disodli wrth i fenywod fynd yn hŷn. 

"Y peth arall allai ddigwydd ydy os ydy eich ffrwythlondeb yn dod yn ôl ar ôl cemotherapi yw fe allwch chi wedyn fynd i mewn i’r menopos yn gynharach na’r arfer pe ne baech chi wedi cael cemotherapi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.