Teyrnged i Jack Williams, un o Gymry amlycaf Philadelphia
Mae mudiad Yr Urdd wedi rhoi teyrnged i Jack Williams, un o Gymry amlycaf Philadelphia yn yr UDA.
Roedd Mr Williams yn gadeirydd ar Cymdeithas Gymraeg Philadelphia yn nhalaith Pennsylvania - yr hynaf o holl gymdeithasau Cymraeg y wlad.
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd yr Urdd mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fod Jack Williams wedi cynnig "profiadau bythgofiadwy" i lawer o bobl ifanc o Gymru oedd wedi ymweld ag America dros y blynyddoedd.
"Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth Jack Williams, Cadeirydd Cymdeithas Gymraeg Philadelphia.
"Roedd yn unigolyn arbennig, brwdfrydig ac angerddol, a roddodd brofiadau rhyngwladol i aelodau o’r Urdd."
Ychwanegodd y datganiad: "Trwy ei ymdrechion, cafodd nifer o bobl ifanc o Gymru gyfleoedd gwerthfawr i ymweld a pherfformio yng Ngogledd America, profiadau bythgofiadwy iddynt.
"Estynnir ein cydymdeimlad dwys i’w deulu a’i ffrindiau."
Llun: Yr Urdd