Tŷ Hyll: Talp o hanes unigryw i gael ei werthu ddiwedd Awst
Fe fydd tŷ unigryw sydd yn dalp o hanes lleol yn cael ei werthu mewn arwerthiant ddiwedd mis Awst.
Mae'r Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ers degawdau, ond bellach mae perchnogion yr adeilad, Cymdeithas Eryri, yn dweud bod y Gymdeithas wedi penderfynu bod angen "ailgyfeirio ein hadnoddau i rywle arall", gan "chwilio am berchennog newydd" ar gyfer y tŷ hanesyddol.
Yn ôl un chwedl, cafodd y tŷ unnos ei godi dros nos yn y 15fed ganrif.
Chwedl arall yw ei fod wedi ei godi gan ladron er mwyn manteisio ar deithwyr ar yr hen briffordd wrth iddyn nhw fynd heibio am Eryri.
Dywedodd Cymdeithas Eryri, sydd yn berchen ar yr adeilad ers 1988, mewn datganiad nad oedd y penderfyniad i'w werthu yn un hawdd.
"Yn syml, mae’n cydnabod ein bod ni’n credu y bydd y defnydd gorau o’n hadnoddau, yn y dyfodol, yn fwy priodol mewn mannau eraill - a bod eraill yn debygol o fod mewn gwell sefyllfa i barhau i ofalu am yr adeilad a’r tir.
"Gan dybio y bydd ei bris wrth gefn sydd eto i’w bennu yn cael ei ateb, bydd Tŷ Hyll yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar 26 Awst 2026."
Cynlluniau perchnogion newydd
Ychwanegodd y Gymdeithas eu bod cydnabod nad oes ganddynt unrhyw reolaeth dros gynlluniau unrhyw berchennog newydd ar gyfer yr adeilad a’r tir, ond eu bod yn "gobeithio’n fawr y byddan nhw’n parhau i reoli’r safle mewn ffordd sy’n cydnabod y blynyddoedd o ymdrech a wnaed gan staff Cymdeithas Eryri ac - yn bwysicach fyth - gwirfoddolwyr.
"Lle bo modd, efallai y byddwn ni’n gallu eu cefnogi’n weithredol yn eu hymdrechion i reoli’r safle’n gynaliadwy."
Dywed eu datganiad na fydd unrhyw elw o'r gwerthiant "yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrannu at gostau rhedeg dyddiol y Gymdeithas, gan nad ydym yn credu y byddai hyn yn waddol priodol i’r safle a’i bobl."
"Bydd yr holl arian, maes o law, yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri."
