Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth yn cynnal trafodaethau yn yr Alban
Mae Prif Weinidog newydd y DU Andy Burnham wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru am y tro cyntaf ddydd Iau, a hynny yn yr Alban.
Roedd Andy Burnham wedi teithio i’r Alban er mwyn mynychu seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad.
Mae hefyd wedi cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, ar yr un daith.
Yn dilyn ei gyfarfod gyda Mr Burnham, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi "cyflwyno yr achos i Gymru gael cydraddoldeb pwerau â’r Alban drwy Fil Cymru newydd, gyda phwyslais uniongyrchol ar ddatganoli plismona a chyfiawnder, a model cyllido tecach yn lle y Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio erbyn hyn".
Dywedodd bod y ddau wedi trafod mesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a’u "hymrwymiad ar y cyd i fabwysiadu dull mwy cydweithredol o ymdrin â gwleidyddiaeth".
“Amlinellais hefyd fy nisgwyliad na fyddai Rhif 10 y Gogledd yn troi’n Whitehall â chod post gwahanol, ac y bydd y Prif Weinidog yn dangos cymaint o frwdfrydedd dros rymuso ein Senedd ag y mae eisoes wedi’i ddangos tuag at ddatganoli pŵer i ranbarthau Lloegr".
Mae Rhun ap Iorwerth a John Swinney ill dau yn cefnogi annibyniaeth i’w gwledydd yn y pen draw.
Dywedodd Andy Burnham, cyn-faer Manceinion, cyn y cyfarfod na fydd yn ystyried cynnal unrhyw refferendwm ar annibyniaeth a’i fod yn canolbwyntio yn lle hynny ar sicrhau twf economaidd.
Ychwanegodd Mr Burham: “Pan fyddaf yn dweud bod angen twf da ym mhob cod post, rwy’n golygu pob cod post ar hyd a lled y DU. Mae pob lle a phob person yn bwysig.
“Dydw i ddim yn canolbwyntio ar sgorio pwyntiau nac ar drafod newidiadau cyfansoddiadol fel refferenda. Rydw i am weld camau ymarferol i helpu pobl i fyw yn dda ac i adfer gobaith.”
'Adeiladol'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru yn flaenorol na chafodd gyfarfod â’r cyn-Brif Weinidog, Syr Keir Starmer, oherwydd yr “anhrefn yn San Steffan”.
Daeth Plaid Cymru i rym yng Nghymru ym mis Mai ar ôl i ganlyniad etholiad hanesyddol weld y blaid yn disodli Llafur Cymru ar ôl mwy na dau ddegawd mewn grym.
Rhoddodd y canlyniad hwnnw yn ei dro ragor o bwysau ar Syr Keir i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
Wrth siarad ar raglen Today fore Mercher, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Fe ges i sgwrs ag Andy Burnham ddoe a’i longyfarch ar ddod yn Brif Weinidog.
“Fe wnaethon ni’n dau ei gwneud yn glir ein bod ni eisiau perthynas gadarnhaol ac adeiladol.
“Rwy’n gwybod ei fod yn deall datganoli ym Manceinion. Rydw i eisiau ei helpu i ddeall beth mae datganoli yn ei olygu yng Nghymru a pha adnoddau sydd eu hangen arnon ni i wneud iddo weithio’n well."
Ychwanegodd: “Mae gen i fandad i arwain llywodraeth a etholwyd ar sail addewid i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru, i ddatganoli pwerau a chyllid rheilffyrdd i Gymru, ac i gael yr hawl i reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain.
“Felly mae yna restr, os liciwch chi, o bethau y mae angen eu datganoli nawr er mwyn mynd â hanes Cymru, a hanes datganoli, i’r lefel nesaf.
“Mae’n amlwg bod gennym ni Brif Weinidog nawr sy’n barod i wrando, efallai mewn ffordd nad oedd Keir Starmer, ac rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gyflwyno’r achos dros Gymru.”
Nos Lun fe wnaeth Rhif 10 Downing Street gyhoeddi mai Stephen Kinnock oedd yr Ysgrifennydd Cymru newydd, gan gymryd lle Jo Stevens yn y Cabinet.
Dywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg, ei fod “yn hynod falch ac anrhydeddus o fod yn Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru”.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a chydweithwyr a chymunedau ledled Cymru wrth i ni geisio sicrhau y gall pobl ein cenedl wych fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau,” meddai.
Llun: Swyddfa Prif Weinidog Cymru
