Hofrennydd i helpu gydag ymdrechion i ddiffodd tân Y Rhinogydd

Tanau gwyllt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau y bydd hofrennydd ar gael i helpu gydag ymdrechion i ddiffodd tanau gwyllt ddydd Gwener.

Dywedodd CNC nos Iau y bydd hofrennydd diffodd tân arbenigol yn cael ei ddefnyddio ar Y Rhinogydd fore dydd Gwener “i gefnogi'r ymateb parhaus i'r tân gwyllt”.

“Mae hyn yn dilyn ymdrechion parhaus i sicrhau cefnogaeth o'r awyr yn ystod cyfnod o alw eithriadol o ddigwyddiadau tanau gwyllt mewn mannau eraill yn y DU,” meddai CNC.

Daw hyn ar ôl beirniadaeth nad oedd hofrenyddion ar gael hyd yn hyn i ddiffodd tanau gwyllt yng Nghymru.

Roedd Liz Saville Roberts, aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi galw am gymorth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymateb i'r tân ar fynydd Y Rhinogydd yn ystod y dyddiau diwethaf.

Roedd un cyn-ddiffoddwr tân wedi dweud ei fod yn “siomedig” nad oedd hofrenyddion ar gael i ddiffodd y tanau gwyllt.

Dywedodd Tim Lloyd, cyn-ddiffoddwr tân sy’n byw yn Nwygyfylchi, ei fod yn credu mai diffyg cynllunio oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd CNC yn eu datganiad ddydd Iau: “Bydd yr hofrennydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r ymateb, gan weithio ochr yn ochr ag ymdrechion ymroddedig criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'n timau ein hunain, sydd wedi bod yn cefnogi'r ymateb i ddigwyddiad ar lawr gwlad.

"Am fwy nag wythnos, mae ein staff, ein contractwyr a'n partneriaid wedi bod yn gweithio o gwmpas y cloc i ymateb i'r digwyddiad hwn, a byddwn yn parhau i gefnogi ein  cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y dyddiau i ddod.

"Er bod yr hofrennydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r ymateb yn y Rhinogydd, bydd ei argaeledd yn parhau i gael ei asesu yn unol ag anghenion gweithredol ledled Cymru a'r DU yn ehangach."

Ychwanegodd y llefarydd: "Os bydd angen cefnogaeth awyr ar Wasanaethau Tân ac Achub eraill ar gyfer digwyddiadau yn eu hardal, byddwn yn parhau mewn cysylltiad agos i ddeall yr anghenion hynny ac ystyried y ffordd orau o gynorthwyo ochr yn ochr a’n partneriaid o asiantaethau gwahanol.

"Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymateb, gan gynnwys cydweithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub, tirfeddianwyr, contractwyr a chymunedau lleol."

Llun: CNC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.