Cynnal munud o dawelwch er cof am ddyn ifanc a fu farw yn Llanelwedd
Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal cyn gêm bêl-droed yn y gogledd ddydd Sadwrn, er cof am ddyn 25 oed a fu farw yn Llanelwedd nos Sadwrn diwethaf.
Bu farw Dewi Evans, 25 oed o Lanfihangel Glyn Myfyr, Corwen, mewn maes carafanau ger safle'r Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Fe gafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau, ond fe ddywedodd yr heddlu ddydd Mawrth eu bod nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe fydd Clwb Pêl-droed Cerrigydrudion yn cynnal munud o dawelwch er cof am Mr Evans yn eu gêm ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y clwb: "Mae pawb yn y clwb yn hynod drist o gloed am farwolaeth Dewi. Roedd Dewi yn ffrind i lawer sydd yn gysylltiedig â'r clwb a roedd yn dod i wylio yn rheolaidd ar brynhawn Sadwrn i gefnogi'r tîm, heb anghofio'r hwyl yn y dafarn wedyn.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a ffrindiau yn ystod yr amser caled yma.
"Mi fyddwn yn cael munud o dawelwch dydd Sadwrn yma cyn y gêm yn erbyn Kerry i gofio am Dewi.
"Cysga'n dawel Dewi."
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i faes carafanau ar Fferm Penmaenau yn Llanelwedd am tua 22:30 nos Sadwrn diwethaf.
Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw Mr Evans yn y fan a'r lle.
