Y Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed heb ei werthu mewn ocsiwn

Ty Hyll

Nid oedd prynwr ar gyfer un o adeiladau mwyaf adnabyddus Eryri, Tŷ Hyll, mewn ocsiwn ddydd Mercher.

Ni chafodd yr eiddo rhestredig gradd II ei werthu am na wnaeth y cynigion yn yr ocsiwn gyrraedd pris wrth gefn y perchnogion, Cymdeithas Eryri.

Fe gafodd yr adeilad hanesyddol rhwng Capel Curig a Betws-y-Coed ei roi ar werth, gydag amcanbris o £199,000.

Fe gafodd 20 cynnig eu gwneud am yr eiddo yn ystod yr arwerthiant, gyda'r cynnig olaf yn cyrraedd £219,000.

Ond am na gyrhaeddodd y cynnig y pris wrth gefn, mae'r eiddo'n parhau heb ei werthu.

Hanes

Mae Tŷ Hyll wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ers degawdau.

Er hynny, fe gyhoeddodd perchnogion yr adeilad, Cymdeithas Eryri, yn gynharach eleni eu bod wedi penderfynu bod angen "ailgyfeirio ein hadnoddau i rywle arall", gan "chwilio am berchennog newydd" ar gyfer y tŷ hanesyddol.

Dywedodd y Gymdeithas nad oedd y penderfyniad yn un hawdd, ond ei bod am ailgyfeirio ei hadnoddau at waith arall.

Prynodd Cymdeithas Eryri Dŷ Hyll ym 1988. Roedd yn bencadlys iddi tan 2010, ac ers hynny mae wedi bod yn gaffi ac yn ganolfan i wenyn mêl.

Er bod sawl chwedl yn gysylltiedig â’r adeilad ar ochr yr A5, nid oes sicrwydd pwy a’i hadeiladodd na phryd.

Yn ôl un chwedl, cafodd y tŷ unnos ei godi dros nos yn y 15fed ganrif.

Yn ôl Cymdeithas Eryri, bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei ail-fuddsoddi yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri.

Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg dyddiol yr elusen, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.