‘Twpsyn' yn un o eiriau newydd yr Oxford English Dictionary

Oxford English Dictionary

Mae geiriau ac ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yn rhan o'r Saesneg Cymreig, gan gynnwys ‘twpsyn’, ‘bachgen’ a ‘now in a minute’, wedi cael eu hychwanegu at eiriadur Prifysgol Rhydychen, yr Oxford English Dictionary

Math o Saesneg sy’n cael ei siarad yng Nghymru ac sydd wedi’i ddylanwadu gan y Gymraeg yw Saesneg Gymreig. 

Mae’r geiriadur wedi ychwanegu chwe gair ac ymadrodd sy’n gysylltiedig â Chymru fel rhan o’i ddiweddariad diweddaraf.

Y gair hynaf yn y rhestr newydd yw ‘Bwbach’, sy’n dyddio’n ôl i 1724.

Yn ôl yr Oxford English Dictionary, mae’r gair yn cyfeirio at greadur mewn llên gwerin Cymru, sef ysbryd caredig ond weithiau direidus sy’n debyg i goblyn ac sy’n byw mewn cartrefi ac adeiladau fferm.

Mae ‘bachgen’, sydd wedi ei gofnodi yn Saesneg Cymru ers 1888, hefyd wedi cael ei ychwanegu.

Mae’r geiriadur yn ei ddiffinio fel gair am ‘boy’, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel term o anwyldeb.

Mae ‘boys bach’ hefyd ar y rhestr, fel ffordd gyfarwydd o gyfarch grŵp o ddynion neu grŵp cymysg o bobl.

Ers dechrau’r 20fed ganrif, mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio fel ebychiad o syndod neu siom, yn debyg i ‘my goodness!’ neu ‘good grief!’.

‘Now in a minute’

Ymhlith yr ymadroddion eraill sydd wedi cael eu hychwanegu mae ‘now in a minute’.

Er ei fod yn ymddangos yn groes i’w hun, mae’r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg Gymreig ac Iwerddon i olygu ‘mewn eiliad’, ‘yn fuan iawn’ neu ‘cyn bo hir’.

Yn ôl y geiriadur, mae’r patrwm yn adlewyrchu ymadroddion Cymraeg fel ‘nawr mewn munud’ a ‘mewn munud yn awr’.

Mae ‘in one’s oils’ hefyd wedi cael ei gynnwys, sef ymadrodd sy’n golygu bod rhywun yn gyfforddus, wrth ei fodd neu yn ei elfen.

Mae’n debyg ei fod wedi ei seilio ar yr ymadrodd Cymraeg ‘yn ei hwyliau’.

Mae ‘twpsyn’, sy’n cael ei ddefnyddio am rywun ffôl, hefyd wedi cael ei ychwanegu, gyda’r enghraifft gynharaf yn dyddio o 1941.

Mae nifer o eiriau eraill sydd â chysylltiad â Chymru hefyd wedi cael eu diweddaru yn y geiriadur, gan gynnwys ‘eisteddfod’, ‘cynghanedd’, ‘englyn’, ‘hwyl’, ‘Gorsedd’ a ‘coracle’.

Dywedodd Oxford Languages fod gair yn cael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys yn yr Oxford English Dictionary pan fo tystiolaeth annibynnol ei fod wedi cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffynonellau dros gyfnod rhesymol o amser.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.