'Twll du' yn y gefnogaeth i gyn-filwyr yn y gogledd
'Twll du' yn y gefnogaeth i gyn-filwyr yn y gogledd
Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae nifer o gyn-filwyr yng ngogledd orllewin Cymru yn galw am well darpariaeth ar eu cyfer, gyda rhai yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod lle i droi am gymorth.
Mae'r cyn-filwyr eisiau gweld un gwasnaeth penodol yn cael ei sefydlu fel ei bod yn symlach cael cefnogaeth.
Dim ond 17 oed oedd Tony Brown pan adawodd o Gaernarfon i wasanaethu gyda'r fyddin yng Ngogledd Iwerddon ar ddechrau'r 1970au, ac mae effeithiau'r cyfnod yn para hyd heddiw.
Dywedodd Mr Brown: "Pan o'n i yna, amser y bomio a'r riots, tân, ceir yn dod rownd gornel a photeli petrol yn cael eu lluchio atoch chi, nail bombs a bob dim.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n ochra' Belffast amser yna, dyma car yn dod fewn a'r drws cefn yn agor a stretcher yn cael ei luchio allan.
"Dyna lle o'dd o, bachgen bach rhyw 17 neu 18 a twll mawr yn ei ben o."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gefngoaeth i gyn-filwyr yn cynnwys cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl, yn ogystal a Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws awdurdodau lleol.
Mae Mr Brown wedi cymryd dipyn o amser i ddod dros ei gyfnod ar flaen y gad.
Fe ychwanegodd: "Gynnoch chi deimlad bod rhywun yn gwatshad chi drwy'r amser. Dwi 'di cael psychiatric therapy am PTSD.
"Cyn hynny, o'n i'n gweld bob man o'n i'n mynd o'n i'n sbio ar top ty - ffenast yn agored - car yn dod rownd gornel, o'dda chi'n sbio ar y car. Mae o'n aros efo chi de.
"Ges i flashbacks. O'n i'n dechra' gweld y bachgen 'ma efo twll yn ei ben. O' chi'n gweld y flares.
Er iddo gael triniaeth bryd hynny, gan ddiolch i'r gwasanaeth iechyd, mae Tony Brpwn galw am fwy o gefnogaeth i gyn-filwyr.
"Mae 'na gymorth yna ond ma' rhaid chi chwilio'n galed amdano fo de." Ychwanegodd Mr Brown.
Fe gafodd digwyddiad ei gynnal yn ddiweddar yng Nghaernarfon er mwyn rhoi cyfle i rai fel Tony Brown ddal fyny efo cyn-filwyr eraill a hel atgofion am y da a'r drŵg.
Roedd Stephen Hughes o Nebo yn Nyffryn Nantlle wedi gwasanaethau am 24 mlynedd yn y fyddin, ac yn ystod y cyfnod wedi colli sawl ffrind.
Dywedodd Mr Hughes: "Da chi'n mynd i Iwerddon a 'da chi'n gwneud petha' yn fanna, ac es i i Bosnia. 'Da chi'n gweld petha' yn Bosnia - mwy efo pobl sy'n byw yna. Ma' petha fel 'na yn gwneud i chi deimlo'n ddrŵg.
"Dwi'm 'di bod yn Afghanistan nag Irac, ond mae fanna hefyd yn agor petha i pwy bynnag sy'n mynd yna. Ma nhw'n gweld petha', a petha'n mynd drwy meddyliau nhw a mae o'n dod allan fel PTSD yn diwedd am bod nhw 'di gweld yr holl betha' yn y llefydd 'ma.
"Dy'n nhw ddim yn gallu copio achos ma' nhw 'di cael eu gwatshad ar ol ers blynyddoedd a wedyn ma' nhw'n dod allan i'r big wide world a dy'n nhw'm yn gw'bod be' i 'neud.
"Dydy ffrindia' nhw ddim yna, does 'na ddim byd yna iddyn nhw a ma' nhw'n stryglo i wneud day to day - llenwi forms - be dwi'n 'neud yn fama?
"Stryglo a stryglo, a wedyn ma' nhw'n give up...Mae 'na ambell un ym cymryd eu bywyd.
"Dwi 'di colli dwn i'm faint o ffrindia' trwy hynna, 'di cymryd eu bywyd achos bod nhw ddim yn gallu ffitio mewn i'r gymuned."
Roedd Trefor Jones, o Borthmadog, wedi gwasanaethu gyda'r Gwarchodlu Brenhinol yn Iwerddon ac Irac.
Dywedodd Trefor: "Lle 'da ni'n byw yng Ngwynedd, mae o 'chydig bach o black hole - ond os ydy veteran isho help, mae 'na help yna. Mae rhai yn rhy prowd i ofyn am help, ond fedrwch chi'm 'neud o'ch hun.
"Da chi'n mynd i gofio petha' drwg a chofio petha' da - mae'n bwysig i siarad. Mae'n anodd ffeindio help yng ngogledd Cymru, mae bob dim mor bell i ffwrdd.
"'Da ni isho un lle, fatha'r digwyddiad 'ma yng Nghaernarfon - ma' pawb yn un lle. Office mewn un lle a bob un information yn fanno, psychiatrists, housing a petha' fel 'na. Un number i ffonio sy'n gwneud bob dim."
Roedd elusennau yn y digwyddiad yng Nghaernrfon hefyd yn gweld angen am ddod ynghyd dan un to.
Mae Chris Jones yn gwirfoddoli gydag elusen Help for Heroes, a dywedodd: "Mae 'na angen mawr amdan rwbath fel hyn. Ma' lot o ffrindia' ysgol a'th i'r fyddin 'di bod ar flaen y gad yn Affganistan, Irac, Bosnia a dod allan o'r fyddin a dydy petha ddim 'di bod yn iawn iddyn nhw.
"Ma' nhw'n gofyn am lety, arian, llefydd sydd fatha hwb, caffi, lle arlunio sy'n cael ei redeg gan Help for Heroes..ond ma' angen lot mwy."
Fel trefnydd y digwyddiad yng Nghaernarfon, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts AS ei bod yn credu bod "cyn-filwyr yng Ngwynedd a’r gogledd orllewin yn cael eu gadael i lywio cymysgedd o wasanaethau cymorth ar eu pen eu hunain", gan ychwanegu bod "gwerth clir mewn edrych ar ffyrdd y gallai gwasanaethau presennol weithio’n agosach gyda’i gilydd."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ar ran y llywodraeth bod "y gefnogaeth rydym yn ei gynnig i gyn-filwyr yng Nghymru'n cynnwys cyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl ar draws y wlad, yn ogystal ag i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog sy'n codi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr ar draws awdurdodau lleol."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod pryderon cyn-filwyr yng ngogledd orllewin Cymru'n tanlinellu "bwlch gwirioneddol yn y ddarpariaeth" ac na ddylai cefnogaeth "ddibynnu ar god post yn unig". Fe alwon nhw am sicrhau "cysondeb mewn gwasanaethau ar draws Cymru gyfan".
Byddai Reform UK yn "gweithio gyda chyn-filwyr ac elusennau i wella'r gefnogaeth", meddai'r blaid, ac y dylai "cyn-filwyr chwarae rol ganolog yn penderfynu beth ddylai'r gefnogaeth fod".
Wnaeth y pleidiau eraill ddim ymateb i gais Newyddion S4C am sylw ar y mater.
Os ydych chi wedi eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.