Trump yn ymosod eto ar Starmer gan ddweud ei fod wedi gwneud 'camgymeriad mawr'

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi ymosod unwaith eto ar Syr Keir Starmer gan ddweud ei fod wedi gwneud "camgymeriad mawr" wrth beidio caniatáu i'r Unol Daleithiau ddefnyddio canolfannau milwrol y DU.

Dywedodd Mr Trump ddydd Iau ei fod yn "siomedig iawn" gan benderfyniad "syfrdanol" Prif Weinidog y DU i wrthod caniatáu i luoedd yr Unol Daleithiau ddefnyddio canolfannau’r RAF yn y don gychwynnol o ymosodiadau yn erbyn Iran.

Gan gyfeirio at ganolfan Diego Garcia y DU a’r Unol Daleithiau ar Ynysoedd Chagos yng Nghefnfor India, dywedodd: "Pan oedd angen yr ynys arnom i lanio bomiwr B2 hardd, fe gawsom wybod na allem ei ddefnyddio.

"Byddai’n rhaid i ni hedfan yn ôl i Missouri, sy’n daith 17 awr, yn hytrach na chwpl o oriau. 

"A dywedais, ‘mae’n rhaid eich bod chi’n jocian’. Ddim yn dda. Gwnaethon nhw gamgymeriad mawr."

Fe aeth Mr Trump ymlaen i ddweud for Syr Keir yn "ddyn hyfryd" ond ei fod wedi "gwneud rhywbeth syfrdanol", a "doedd e ddim eisiau ein helpu ni".

Yn ddiweddarach, roedd Llywodraeth y DU wedi rhoi caniatâd i’r Unol Daleithiau weithredu’n "amddiffynnol" o ganolfannau'r DU gyda'r nod o ddirywio safleoedd taflegrau Iran sydd wedi bod yn targedu llongau yng Nghulfor Hormuz.

Wrth siarad mewn cyfarfod Cabinet y Tŷ Gwyn a gafodd ei ddarlledu ar y teledu ddydd Iau, ymosododd Mr Trump eto ar NATO am wneud "dim byd o gwbl" i helpu’r Unol Daleithiau yn y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Fe wnaeth Mr Trump hefyd gyfeirio at longau cludo awyrennau’r DU, HMS Queen Elizabeth a HMS Prince of Wales.

"Nawr maen nhw i gyd eisiau helpu. Pan maen nhw wedi’u difa, mae’r ochr arall wedi’i difa, dywedon nhw ‘byddem wrth ein bodd yn anfon llongau'," meddai.

"Fe gawsom y DU yn dweud ‘byddwn ni’n anfon’ ​​– mae hyn dair wythnos yn ôl – ‘byddwn ni’n anfon ein cludwyr awyrennau’, nad ydyn nhw’r cludwyr awyrennau gorau, gyda llaw. Teganau ydyn nhw o’i gymharu â’r hyn sydd gennym ni.

"Ond ‘byddwn ni’n anfon ein cludwr awyrennau pan fydd y rhyfel drosodd’. 

"Dywedais i ‘o mae hynny’n wych, diolch yn fawr iawn. Peidiwch â phoeni. Dydyn ni ddim eu hangen’.”

Rhybuddiodd na fyddai'r Unol Daleithiau o reidrwydd yn cefnogi cynghreiriaid NATO yn filwrol, gan ddweud: "Byddwn ni bob amser yno – o leiaf roedden ni, dydw i ddim yn gwybod am unrhyw rai eraill i fod yn onest gyda chi, byddai'n rhaid i mi fod yn onest – roedden ni bob amser yno pan oedden nhw angen help."

Ymweliad y Brenin  Charles

Fe fynnodd Mr Trump y byddai ymweliad gwladol y Brenin Charles gyda'r UDA yn mynd yn ei flaen.

Wrth gael ei holi os fyddai'r gwrthdaro yn effeithio ar y cynlluniau, dywedodd: "Na."

"Mae e’n mynd i fod yma’n fuan iawn, fel y gwyddoch chi, rydyn ni’n mynd i gael cinio gwladol," meddai. "Mae’n mynd i fod yn wych."

Mae 'na alwadau wedi bod i ganslo neu ohirio’r daith frenhinol oherwydd y rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Nid yw’r daith wedi’i chyhoeddi’n swyddogol eto, ond mae disgwyl i’r Brenin a’r Frenhines ymweld â Washington ac Efrog Newydd ym mis Ebrill i nodi 250 mlynedd ers annibyniaeth America.

Mewn ymateb i araith ddiweddaraf Mr Trump, cyfeiriodd Downing Street at eiriau Syr Keir yn gynharach yr wythnos hon pan ddywedodd "mae llawer o’r hyn sy'n cael ei ddweud neu ei wneud yn cael ei ddweud a’i wneud i roi pwysau arnaf".

Fe addawodd barhau i "ganolbwyntio’n llwyr ar yr hyn sydd er budd cenedlaethol Prydain".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.