Trump yn bygwth ymosod ar seilwaith Iran os na fydd Culfor Hormuz yn cael ei agor

Trump yn bygwth ymosod ar seilwaith Iran os na fydd Culfor Hormuz yn cael ei agor

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bygwth ymosod ar seilwaith Iran os na fydd Culfor Hormuz yn cael ei agor ddydd Llun.

Mae Donald Trump yn cyfeirio at dargedu seilwaith sifil Iran ac yn dweud wrth y wlad y byddan nhw'n "byw yn Uffern" os na chaiff y culfor ei agor.

Cafodd y bygythiad ei gyhoeddi ar ei blatfform Truth Social brynhawn Sul, diwrnod cyn y terfyn amser yr oedd Mr Trump wedi'i osod i Iran ar gyfer ailagor Culfor Hormuz.

Fe wnaeth Iran gau'r culfor lle mae 20% o olew y byd yn teithio drwyddo'n ddyddiol ar ddechrau mis Mawrth yn dilyn ymosodiadau gan yr Unol Daleithiau ac Israel. 

Ers hynny, mae pris olew tanwydd wedi cynyddu'n gyflym, gyda phris olew crai yn codi i dros $100 y gasgen.

Dywedodd Mr Trump y bydd "dydd Mawrth yn Ddiwrnod yr Orsaf Bŵer, a Diwrnod y Bont, i gyd wedi'u lapio mewn un" yn Iran os na chaiff y culfor ei agor cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at ei fygythiadau i ddinistrio seilwaith y wlad.

Yn gynharach, dywedodd yr arlywydd bod aelod o luoedd America a oedd ar goll ar ôl i Iran saethu awyren ymladd i lawr wedi cael ei achub.

Roedd y swyddog systemau arfau yn teithio ar awyren ymladd F-15E yr Unol Daleithiau a gafodd ei saethu i lawr yn ne Iran ddydd Gwener.

Cafodd peilot yr awyren ei achub, ond nid oedd lleoliad y swyddog yn hysbys – gan arwain at ras rhwng Iran ac America i geisio dod o hyd iddo.

Erbyn oriau mân bore Sul, dywedodd Arlywydd America fod y swyddog wedi cael ei achub yn dilyn ymgyrch filwrol.

Mewn datganiad ar Truth Social, dywedodd Trump fod y swyddog wedi cael ei achub gan luoedd ei wlad.

"RYDYM WEDI EI GAEL! Fy nghyd-Americanwyr, dros yr oriau diwethaf, mae Lluoedd Milwrol yr Unol Daleithiau wedi cynnal un o'r Ymgyrchoedd Chwilio ac Achub mwyaf beiddgar yn hanes yr Unol Daleithiau," meddai.

Fe aeth ymlaen i ddweud bod yr aelod criw coll, "Cyrnol uchel ei barch" ... a oedd "y tu ôl i linellau'r gelyn ym mynyddoedd peryglus Iran, yn cael ei hela gan ein gelynion" ond bod lluoedd eraill yr Unol Daleithiau "yn monitro ei leoliad 24 awr y dydd".

Ddydd Gwener, roedd Iran wedi cynnig gwobr ariannol o tua £50,000 ($66,000) i'w ddinasyddion am ddarganfod yr aelod yn "fyw".

Cafodd pump o bobl eu lladd yn ne-orllewin y wlad yn ystod yr ymdrech achub dros nos, yn ôl cyfryngau Iran.

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.