'Argyfwng': Galw am gofnodi hunanladdiadau staff heddlu yn fwy cywir
Mae cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wedi cefnogi galwad am gofnodi data hunanladdiadau ymhlith swyddogion a staff yr heddlu yn fwy cywir.
Daw'r alwad gan y Prif Arolygydd Trystan Bevan sy'n dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn "peri pryder mawr" iddo.
Yn ôl Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, roedd 100 o swyddogion a staff wedi lladd eu hunain rhwng 2022 a 2025 - gydag o leiaf 70 ohonynt yn swyddogion.
Roedd mwy na 200 o swyddogion a staff hefyd wedi ceisio lladd eu hunain yn yr un cyfnod.
Mae'r Ffederasiwn yn bryderus gan nad oes gofyniad cyfreithiol i gofnodi'r ffigyrau.
Wrth ysgrifennu yn rhifyn diweddaraf cylchlythyr y Ffederasiwn, Your Voice, mae'r Prif Arolygydd Bevan yn dweud: "Mae'r ffigyrau'n peri pryder mawr ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn.
"Yr hyn sy'n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy pryderus yw'r diffyg cofnodi gorfodol ar draws y wlad oherwydd heb y data ni allwn ddeall ei faint yn iawn.
"Mae’n bosib mai dim ond rhan fach o’r darlun yw’r ffigyrau hyn."
'Angen data cywir a dibynadwy'
Mae'r Ffederasiwn yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i gofnodi'r ystadegau, ond dywedodd y Prif Arolygydd Bevan fod angen dull mwy cydlynol yn genedlaethol gan ei fod yn fater rhy bwysig i'w adael i heddluoedd unigol.
"Rydym angen data cywir a dibynadwy er mwyn gallu deall y rhesymau dros yr argyfwng yn iawn, i nodi tueddiadau ac i wella lles ein haelodau," meddai.
Gan nad yw'n ofynnol i heddluoedd gofnodi hunanladdiad neu ymgais i gyflawni hunanladdiad, nid yw plismona yn cael ei ystyried gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel swydd gyda risg uwch o hunanladdiad o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.
Mae'r Ffederasiwn wedi nodi cynllun chwe phwynt i fynd i'r afael â'r argyfwng.
Mae'r cynllun yn cynnwys galwad i gofnodi pob hunanladdiad ac ymgais i gyflawni hunanladdiad, i gyfyngu ymchwiliadau i gamymddwyn i 12 mis, ac i hunanladdiad gael ei drin fel digwyddiad sy'n gysylltiedig â'r gwaith o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Yn y cyfamser, mae'r Prif Arolygydd Bevan yn annog aelodau o'r llu sy'n dioddef i siarad a chael cefnogaeth.
"Mae plismona yn swydd heb ei hail ac mae'n gallu cael effaith," meddai.
"Nid yw gofyn am help yn wendid. Mae cefnogaeth yno."