Troi galar yn her: Rhedeg 10 marathon mewn 10 niwrnod
Mae dyn 24 oed o Bowys wedi llwyddo i redeg hyd Cymru gyfan er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion.
Yn yr her o dan yr enw “Project Wales”, mae Jensen Jones o Lanidloes wedi llwyddo i redeg 10 marathon o fewn 10 niwrnod.
Dechreuodd ei daith ar 1 Ebrill o oleudy Ynys Arw ar Ynys Môn, a chyrhaeddodd y llinell derfyn ym Mae Caerdydd ddydd Gwener, 10 Ebrill.
“Fel Cymro, roeddwn i eisiau cynnwys fy niwylliant a fy hunaniaeth i mewn i’r sialens yma, a dyna ble daeth y syniad i redeg ledled Cymru," meddai.
“Pan nes i drafod y syniad gyda fy nheulu doedden nhw byth yn meddwl byswn i yn llwyddo. Ond dwi’n mwynhau profi bobl yn anghywir, jest achos fod rhywbeth yn anodd, dyw e ddim yn amhosib.”
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth dros iechyd meddwl dynion, mae Jensen hefyd yn rhedeg er cof am ei ffrind agos, Josh Turner, a fu farw fis Rhagfyr y llynedd.
“Roedden ni yn ffrindiau ers yr ysgol. Roedd e yn berson mor ddiniwed, doedd dim asgwrn drwg yn ei gorff,” meddai Jensen.
“Ar ôl i ni golli Josh, gwelais gymaint o fy ffrindiau yn ei ffeindio hi’n anodd delio gyda beth oedd wedi digwydd. Doeddwn i ddim yn gallu eistedd o gwmpas a gwneud dim. Dwi’n gwybod bod Josh yn edrych i lawr arnaf. Mae hwn iddo fe.”
Wrth redeg drwy Lanidloes ar y chweched diwrnod, cafodd Jensen groeso aruthrol gan ei gymuned leol.
“Oedd hi’n eithaf emosiynol i wybod bod y gymuned gyfan tu ôl i mi, ac nath o wneud i mi sylwi bod be dwi’n gwneud yn cael effaith enfawr.”
Mae cyfradd hunanladdiadau ymhlith dynion yng Nghymru bellach yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig, a hwn yw’r achos mwyaf o farwolaethau ymysg dynion o dan 50.
“Ges i flwyddyn eithaf anodd llynedd, lle nad oedd unrhyw beth i weld yn mynd yn dda i mi,” dywedodd Jensen.
“Dwi wedi gweld sawl un o fy ffrindiau yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl nhw hefyd dros y blynyddoedd, felly mae’n achos sydd yn agos iawn i fy nghalon. Mae iechyd meddwl dynion yn bwnc sydd ddim yn cael ei drafod ddigon, a dwi ishe atgoffa dynion ei bod hi yn iawn i beidio bod yn iawn.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Jensen ymgymryd â her eithafol. Fis Medi diwethaf, cwblhaodd her yr Ironman gan godi dros £15,000 i Ganolfan Trawsblaniadau Afu.
Erbyn hyn, mae Jensen wedi codi dros £14,000 drwy “Project Wales”, ac mae’n gobeithio y bydd ei ymdrechion yn helpu i dorri’r stigma.
“Mae pobl yn meddwl na ddylai dynion grïo neu fod yn drist. Mae angen newid y stigma yma, ac wrth wneud y sialens yma dwi’n gobeithio ei fod yn dangos i’r rheini sydd yn meddwl nad oes ffordd allan, fod dyddiau gwell i ddod."