'Trobwynt': Andy Burnham yn ennill is-etholiad Makerfield

Andy Burnham

Mae Andy Burnham wedi ennill is-etholiad Makerfield, gan ddatgan y gallai'r bleidlais fod yn "drobwynt" yng ngwleidyddiaeth y wlad.

Fe enillodd cyn Faer Manceinion dros 25,000 o bleidleisiau yn yr is-etholiad wrth iddo hawlio'r sedd gyda mwyafrif o dros 9,000 dros yr ymgeisydd Reform UK, Robert Kenyon, a ddaeth yn ail.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth, mae disgwyl i Mr Burnham herio’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer am arweinyddiaeth y blaid.

Wrth annerch ei gefnogwyr yn ystod oriau man fore Gwener, dywedodd Mr Burnham "fod pawb yn gwybod nad oedd gwleidyddiaeth yn gweithio".

“Rydw i’n dweud wrth fy mhlaid: dyma'r cyfle olaf i newid.

Image
Andy Burnham
Fe enillodd Andy Burnham yr is-etholiad gyda dros 55% o'r bleidlais (Llun: PA)

“Dyma beth ddywedodd cannoedd o bobl wrthaf i’n uniongyrchol wrth i mi sefyll ar garreg eu drws. Mae’n rhaid i ni wrando, mae’n rhaid i ni weithredu ac mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Ni fydd ail gyfle.”

Y frwydr i arwain y blaid Lafur

Mae Mr Burnham wedi dweud yn flaenorol y byddai’n ceisio sefyll pe bai unrhyw gystadleuaeth yn cael ei chynnal am arweinyddiaeth y blaid.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud na fydd yn ildio’r arweinyddiaeth ac yn mynnu y byddai’n brwydro pe bai unrhyw her.

Wrth ymateb i’r canlyniad, dywedodd Mr Starmer bod etholwyr yn Makerfield wedi dewis “ymgyrch o obaith ac optimistiaeth gan Lafur dros raniadau a chasineb.”

Mae wedi dweud yn flaenorol ei fod yn dymuno arwain y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, er gwaethaf y pwysau cynyddol sydd arno yn dilyn perfformiad siomedig y blaid mewn etholiadau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ddydd Mercher ei fod 'yn barod' i danio gornest arweinyddiaeth mor fuan ag wythnos nesaf.

Mae canlyniad yr is-etholiad yn golygu fod Mr Burnham wedi ildio ei rôl fel Maer Manceinion Fwyaf, swydd y mae wedi ei ddal ers 2017.

Bydd etholiad i benderfynu ar ei olynydd yn cael ei gynnal ar 30 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Burnham bod "prawf Makerfield wrth galon gwleidyddiaeth Brydeinig ac y bydd yn sicrhau y byddai'r llefydd sydd wedi'u hanwybyddu gan San Steffan nawr yn cael tegwch."

Mae'r Gweinidog Cabinet Lisa Nandy wedi dweud ei fod yn dymuno gweld Mr Burnham "yn ôl wrth y bwrdd uchaf".

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant: “Yr hyn y mae Andy wedi’i ddangos yma yw bod rhywbeth y mae’n ei gyfrannu, parodrwydd i fynd allan ac ymladd dros y newid sydd ei angen ar bobl, i fynd i’r afael ag unrhyw system ac unrhyw berson sy’n sefyll yn y ffordd ac i fod yn feiddgar ac i wisgo’i galon ar ei lawes, ac mae pobl wedi ymateb."

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.