Tri aelod o gang cyffuriau wedi'u carcharu ar ôl darganfod £16,000 mewn car ger Aberystwyth

Florin Ghiorghe, Mirjol Bresa, Shaqir Tota
Carcharu 3 pontarfynach

Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am eu rhan mewn gang oedd yn cyflenwi cocên o Birmingham i ardal Aberystwyth.

Daeth yr heddlu o hyd i £16,000 mewn arian parod ac 80 o becynnau cocên mewn car oedd yn cael ei ddefnyddio i storio cyffuriau ger Pontarfynach, Ceredigion.

Roedd y gang yn defnyddio ceir wedi'u llogi a lleoliadau gwledig diarffordd mewn ymgais i osgoi cael eu dal.

Fe gafodd y tri ddyn eu dedfrydu Llys y Goron Abertawe ar ôl cyfaddef eu bod yn ymwneud â chyflenwi cocên.

Roedd Shaqir Tota, 24 oed, o Dudley, yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgareddau trwy linell ffôn benodol ar gyfer gwerthu cyffuriau.

Roedd Florin Ghiorghe, 28 oed, o Benallta, a Mirjol Bresa, 21 oed, o Birmingham, yn gwerthu'r cyffuriau i gwsmeriaid yn ardal Aberystwyth.

Fe gafodd Tota ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis, Ghiorghe am ddwy flynedd a thri mis, a Bresa am 22 mis.

Ymchwiliad yr heddlu

Fe gafodd Ymgyrch Haxted ei sefydlu gan Uned Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol Heddlu Dyfed-Powys i ymchwilio i'r rhwydwaith cyffuriau.

Yn ôl yr heddlu, roedd cwsmeriaid yn derbyn lleoliad ar Google Maps, tra bod y gwerthwyr yn cael neges destun yn eu cyfeirio at yr un man.

Roedd y gwerthiannau'n digwydd yn sedd flaen ceir wedi'u llogi.

Ar 20 Awst, fe gafodd Bresa a Ghiorghe eu gweld yn cyfarfod mewn mewn maes parcio gwledig ger Pontarfynach.

Roedd y ddau wedi mynd at gist Volkswagen Passat arian oedd wedi'i barcio yno, cyn dychwelyd i'w ceir a theithio i Aberystwyth.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 27 Awst, fe gafodd y tri dyn eu harestio.

Wrth chwilio'r Volkswagen Passat, fe ddaeth swyddogion heddlu o hyd i 80 o becynnau cocên, pob un yn cynnwys hanner gram, ynghyd â £16,000 mewn arian parod oedd wedi'i guddio o dan sedd y gyrrwr.

Roedd peiriant pecynnu dan wactod (vaccum seal machine) a bagiau oedd wedi'u cynllunio i atal arogleuon hefyd yng nghist y car.

Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddod o hyd i filoedd o negeseuon testun ar ffonau symudol oedd yn gysylltiedig â'r gang.

Roedd un neges yn hysbysebu bod cocên ar gael yn Aberystwyth bob dydd rhwng 06:00 ac 01:00, gan gynnig cyffuriau am ddim i gwsmeriaid oedd yn argymell y gwasanaeth i'w ffrindiau.

Pedwerydd dyn wedi'i garcharu

Roedd pedwerydd dyn, Mariglen Llapushi, 27 oed, o Fryste, eisoes wedi cael ei garcharu am dair blynedd ym mis Gorffennaf 2026 am gyflenwi cocên yn ardal Aberystwyth fel rhan o'r un rhwydwaith.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Steve Jones o Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymchwiliad wedi targedu gang troseddau cyfundrefnol oedd wedi hen sefydlu yn yr ardal.

"Er gwaethaf eu hymdrechion gorau i osgoi cael eu dal, drwy ddefnyddio cerbydau wedi'u llogi, cyfarfod mewn lleoliadau gwledig diarffordd a chadw'r cyffuriau mewn cerbyd ar wahân, fe wnaeth ein tîm ymroddedig ddilyn eu trywydd," meddai.

Fe wnaeth ddiolch i drigolion am roi gwybod i'r heddlu am weithgareddau amheus, gan ddweud bod y wybodaeth wedi arwain at sefydlu'r ymchwiliad.

"Mae chwalu'r gang hwn yn ganlyniad arwyddocaol nid yn unig i ni fel heddlu, ond i gymuned ehangach Aberystwyth, sy'n haeddu byw mewn ardal sy'n rhydd o gyffuriau a'r troseddau sy'n gysylltiedig â nhw," ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.