Tri adeilad yn Llanelli ymysg 14 newydd ar gofrestr adeiladau mewn perygl

Hen gapel, eglwys a sinema yn Llanelli ymhlith 14 adeilad mewn perygl yng Nghymru
Adeiladu Llanelli sydd mewn perygl

Mae tri adeilad hanesyddol yn Llanelli ymysg 14 o adeiladau yng Nghymru sydd wedi eu hychwanegu at gofrestr genedlaethol o adeiladau mewn perygl.

Mae hen sinema'r Odeon y dref, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Theatre Elli, a Chapel y Parc a Chapel Calfaria ymhlith yr adeiladau ar restr ddiweddaraf yr elusen SAVE Britain’s Heritage.

Mae’r elusen yn defnyddio’r gofrestr i dynnu sylw at adeiladau hanesyddol sy’n wag, yn dirywio neu sydd â dyfodol ansicr. 

Cafodd y gofrestr ei sefydlu yn 1989 ac mae bellach yn cynnwys dros 1,500 o adeiladau ledled y DU.

Agorodd Theatre Elli fel sinema yn 1938 ac mae’n adeilad rhestredig Gradd II.

Caeodd yn 2012 ac fe gafodd ei werthu gan y cyngor yn 2014. Cafodd cynlluniau i adfer yr adeilad ganiatâd cynllunio, ond ni symudodd y prosiect ymlaen oherwydd diffyg cyllid ac effaith pandemig Covid-19.

Mae Capel y Parc hefyd wedi bod mewn cyflwr gwael ers blynyddoedd. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi’n ddifrifol gan dân yn 2015.

Mae Capel Calfaria a’i hen Ysgol Sul hefyd ar y gofrestr. Cafodd y capel rhestredig Gradd II ei ddylunio gan George Morgan o Gaerfyrddin ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Ymhlith yr adeiladau eraill ar y rhestr mae Dulais Rock, cyn dafarn yn Aberdulais a gaeodd yn 2008.

Er nad yw’r adeilad wedi’i restru, mae ganddo gysylltiadau â hanes diwydiannol yr ardal ac mae mewn lleoliad amlwg ger Rhaeadr Aberdulais. Yn ôl SAVE Britain’s Heritage, gallai gael ei ddefnyddio eto fel tafarn, caffi neu dai.

Mae Ysgol Grove Park yn Wrecsam hefyd wedi cael ei hychwanegu. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2003.

Image
Ysgol y Grove, Dulais Rock, Sinema'r Elysium
Ysgol Grove Park, Dulais Rock a Sinema Elysium - mae'r adeiladau yma hefyd mewn perygl yn ôl SAVE Britain's Heritage

Rhoddodd Cyngor Wrecsam ganiatâd i’w ddymchwel yn 2016, ond cafodd yr ysgol ei rhestru’n adeilad Gradd II gan Cadw yn ddiweddarach yr un flwyddyn. 

Cafodd y cynlluniau dymchwel eu tynnu’n ôl wedi hynny.

Yn Abertawe, mae cyn Sinema Elysium ar y rhestr. Agorodd yr adeilad yn 1914 ac roedd lle i tua 1,400 o bobl ynddo.

Caeodd fel sinema yn 1960 cyn cael ei ddefnyddio fel neuadd bingo tan y 1990au. 

Mae wedi bod yn wag ers hynny ac yn 2009 fe gwympodd rhan o’r canopi uwchben y palmant, gan daro person oedd yn cerdded heibio.

Mae cyn Fragdy Cwmavon Westlake’s ym Mlaenafon, sydd o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, hefyd ymhlith yr ychwanegiadau.

Cafodd yr adeilad ei ddifrodi’n ddifrifol gan dân yn 2012. Er bod caniatâd wedi cael ei roi i ddechrau gwaith adfer yn 2019, ni chafodd y gwaith ei wneud.

Ym Mhont-y-pŵl, mae cyn siop y Co-op wedi cael ei hychwanegu. Cafodd ffatri ganabis anghyfreithlon ei darganfod yn yr adeilad yn 2020.

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi i ailddatblygu’r safle ac fe gafodd yr adeilad ei werthu yn 2025, ond nid oes gwaith wedi dechrau hyd yma.

Mae Normandy House ym Mhenarth, rhif 28 The Parade yng Nghaerdydd, Cambrian House ym Mrynteg, The Beeches ym Mlaenafon, Eglwys Sant Iago ym Mhont-y-pŵl a thŷ pwmpio hen Lofa’r British Ironworks hefyd ymhlith y 14 adeilad yng Nghymru ar y rhestr newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.