Daeargrynfeydd Venezuela: Mam dyn sy'n byw yng Nghaerdydd 'wedi colli popeth'
Mae dyn o Venezuela sydd yn byw yng Nghaerdydd wedi bod yn dweud fod ei fam "wedi colli popeth" yn y daeargrynfeydd a darodd y wlad yn Ne America.
Doedd Miguel Delgado ddim yn gallu cael gafael ar ei fam, Lizette, am ddau ddiwrnod ar ôl y daeargrynfeydd. Roedd yn poeni ei bod hi wedi marw.
Mae rhan o'i chartref yn Playa Grande yng ngogledd Venezuela wedi'i ddinistrio, gan ei gwneud yn ddi-gartref dros dro.
Mae dros 1,700 o bobl wedi marw ar ol i ddau ddaeargryn daro'r wlad yr wythnos ddiwethaf.
Roedd y daeargrynfeydd, a oedd yn mesur 7.2 a 7.5, ymhlith y mwyaf nerthol yn Venezuela ers dros ganrif, gyda'r dirgryniadau i'w teimlo ar hyd a lled y wlad.
Symudodd Miguel i Gaerdydd ym mis Ebrill 2016 ac mae'n gweithio yn y sector lletygarwch yn y brifddinas.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod wedi profi nosweithiau di-gwsg cyn i'w fam gysylltu ag ef i ddweud ei bod hi'n iawn.
"Dwi methu rhoi mewn geiriau pa mor anodd mae wedi bod," meddai Miguel.
"Doeddwn i ddim yn gallu cysgu, yn credu fy mod i wedi ei cholli achos doeddwn i ddim yn gallu cysylltu â hi."
Roedd Lizette wedi dianc o'i chartref heb ei hesgidiau ac yn cario ei chi, Odin.
Brysiodd hi yn ôl i'w fflat er mwyn nôl ei cherdyn adnabod a bwyd i Odin, cyn i ran o'i chartref gael ei ddinistrio.
Wnaeth hi ddim cael ei anafu. Mae ei hadeilad hi yn y pentref yn dal i sefyll ar hyn o bryd.
Ond mae llawer o'i chymdogion wedi colli eu cartrefi ar ôl i sawl adeilad ddymchwel yn ystod y daeargrynfeydd.
"Mae sawl adeilad yn ein cymuned yn Playa Grande heb oroesi, a sawl un wedi dymchwel," meddai Miguel.
"Fe wnaeth adeilad fy nghefndryd gael ei ddifrodi. Maen nhw'n iawn, ond maen nhw'n cysgu y tu allan ar hyn o bryd achos eu bod nhw'n ofni daeargryn arall.
"Mae llawer o'm cymdogion wedi colli popeth. Does dim modd mynd yn ôl i nifer o'r tai, ac mae rhaid i bobl ddod o hyd i loches, dillad a bwyd.
"Dwi methu dechrau dychmygu pa mor anodd fydd hi i adeiladu pethau eto. Mae'r ardal wedi'i dinistrio."
'Digaloni'
Mae sawl rhan o dalaith La Guaira, lle mae pentref Lizette wedi'i leoli, dal heb gael ei chwilio eto gan dimau achub.
O achos hyn, mae cannoedd o bobl yn dal ar goll, wedi eu dal dan rwbel adeiladau sydd wedi dymchwel.
Mae un o ffrindiau Lizette a'i merch dal ar goll. Mae Lizette yn credu eu bod nhw wedi eu dal dan rwbel adeilad sydd wedi dymchwel yn Playa Grande.
Yn ôl Miguel mae byw mor bell i ffwrdd yn anodd iddo ef a phobl eraill o Venezuela sydd yn byw dramor.
"Mae'r ffaith eich bod chi y tu allan i'r wlad, yn bell o aelodau'r teulu... Mae eich anwyliaid yn dioddef ac mae'n anodd cyfathrebu achos dyw'r llinellau ffôn ddim yn gweithio.
"Felly, mae ceisio cael newyddion mor anodd ac yn digaloni llawer o bobl Venezuelaidd ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy sydd yn ddiogel a phwy sydd dal ar goll."
Mae dros 25,000 o weithwyr y gwasanaethau brys a milwyr wedi bod yn rhoi cymorth ar lawr gwlad yn Venezuela, meddai Arlywydd dros dro y wlad, Delcy Rodríguez.
Ymhlith y rhain mae 68 aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a gweithwyr dyngarol o Gymru.
Mae Miguel wedi dechrau ymgyrch codi arian. Hyd yn hyn mae dros £5,000 wedi ei gyfrannu, llawer gan ei ffrindiau yng Nghymru.
Gyda'r arian, mae ei fam wedi prynu bwyd a diod er mwyn gwneud bwyd i bobl yn ei phentref.
"Mae llawer o fy nghymuned - y gymuned Venezuelaidd a'r gymuned yng Nghaerdydd, wedi bod mor gyfeillgar ac wedi helpu llawer," meddai Miguel.
"Mae fy mam wedi colli popeth, ond ar yr un pryd mae hi'n defnyddio'r arian i helpu ei ffrindiau, ei chymdogion a helpu mewn unrhyw ffordd y gall hi.
"Dwi eisiau i bobl rannu'r hyn sy'n digwydd yno, i weld pa mor anodd yw pethau nid yn unig i fy mam, ond i lawer o bobl eraill."