Ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerfyrddin
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig a ddigwyddodd ar stryd yng nghanol tref Caerfyrddin yng ngolau dydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig o flaen siop gemwaith F.Hinds am tua 16:00 ar brynhawn dydd Mawrth, 12 Mai.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd i adnabod dyn mewn llun y maen nhw wedi ei ryddhau,
Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000377639.