Coleg Llanymddyfri yn torri cyflogau athrawon wrth wynebu bwlch ariannol o £1 miliwn

Newyddion S4C
Coleg Llanymddyfri

Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall bod athrawon yng Ngholeg Llanymddyfri wedi cytuno i dderbyn gostyngiad yn eu cyflogau ac i adael ei cynllun pensiwn galwedigaethol mewn ymgais i geisio diogelu dyfodol yr ysgol.

Mae hi'n costio rhwng £4,000-£11,000 y tymor i dalu am addysg plentyn yn y Coleg, sydd yn enwog am gynhyrchu dros 50 o chwaraewyr rygbi rhyngwladol, sydd wedi ennill dros 550 o gapiau i Gymru.

Mae Carwyn James, George North ac Alun Wyn Jones ymhlith y cyn ddisgyblion.

Mae'r Coleg wedi wynebu argyfwng ariannol yn ystod y misoedd diwethaf, ond mae cynllun cymorth wedi cael ei greu yn dilyn trafodaethau rhwng Cadeirydd y Llywodraethwyr a staff.

Mewn llythyr i rieni, dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Simon Woodhead, bod "polisïau newydd y llywodraeth (y DU) yn achosi niwed i ysgolion annibynnol, yn cynyddu ein costau ac eich costau chi trwy dreth ar werth." 

Treth ar werth

Ers 1 Ionawr, 2025, mae rhieni wedi gorfod talu treth ar werth o 20% ar ffioedd dysgu mewn ysgolion bonedd.

Mae nifer y disgyblion yn Llanymddyfri wedi lleihau o 265 cyn y newid polisi i 211, ac mae 175 wedi ymrwymo i fynychu'r ysgol y mis Medi.

Deallir bod hyn wedi gadael bwlch ariannol o £1m yng nghoffrau'r Coleg.

Yn y llythyr at rieni, dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, bod cefnogwyr lleol wedi cytuno i gyfrannu £600,000 a grŵp o gyn fyfyrwyr y Coleg wedi addo rhoi £20,000, ond bod y cyfraniadau hyn yn sicrhau'r dyfodol tymor byr nid hir dymor.

Nid dyma'r tro cyntaf mae Coleg Llanymddyfri wedi wynebu problemau ariannol.

Bu'n rhaid diddymu'r cwmni oedd yn rhedeg y Coleg yn 2012 oherwydd dyledion o £2m, a chafodd aelodau o'r staff ddim eu talu am rai misoedd wrth i'r Coleg greu cynllun achub bryd hynny.

Ailstrwythuro

Fe fydd cynllun ailstrwythuro yn cael ei ddatblygu dros yr haf, ac fe fydd y Coleg yn torri nôl ar ysgoloriaethau a gwobrwyon ariannol i ganolbwyntio ar y myfyrwyr mwyaf talentog ac anghenus.

Y nod, yn ôl Cadeirydd y llywodraethwyr, yw "gwella'r sefyllfa ariannol" a chyfyngu ar y cynnydd posib mewn ffioedd dysgu.

Mewn datganiad i'r wasg, dywedodd Coleg Llanymddyfri bod "cydweithwyr ar draws yr ysgol wedi creu cynllun i warchod dyfodol y coleg, er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau o ddisgyblion barhau i elwa o'r cyfleon addysgol mae'n cynnig."

"Mae'r Coleg yn falch iawn o'r ymrwymiad a haelioni'r staff. Mae eu parodrwydd i gefnogi'r ysgol ar yr adeg hon yn adlewyrchiad o werthoedd ac ysbryd cymunedol Coleg Llanymddyfri."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.